Thiamin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Adnabyddir y term cemegol '''thiamin''' hefyd gan yr enwau fitamin B<sub>1</sub> ac aneurine hydrochloride, sef teulu o [[moleciwl|foleciwlau]] sy'n rhannu yr un math o strwythur. Ei ffurf arferol yw fel cemegolyn di-liw gyda [[formiwlafformiwla gemegol]] o [[Carbon|C]]<sub>12</sub>[[Hydrogen|H]]<sub>17</sub>[[Nitrogen|N]]<sub>4</sub>[[Ocsigen|O]][[Sulfur|S]]. Mae'r math hwn o thiamin yn hydoddi mewn [[dŵr]], [[methanol]] a [[glyserol]] ond nid mewn [[aseton]], [[ether]], [[clorofform]] na [[bensen]] ('benzene'). Math arall o thiamin yw TTFD, sydd â nodweddion hydoddi hollol wahanol, ac yn perthyn i'r teulu hwnnw o fitaminau sy'n hydoddi mewn olew. Mae ganddo gylch pyramidin a chylch thiasol.
 
Yn y [[corff dynol]], mae'n holl bwysig ar gyfer metabolism iach (o ran carbohydrad iach) ac ar gyfer y [[nerf|system nerfol]]. Gall diffyg thiamin arwain at [[beriberi]] gyda phroblemau gyda'r [[calon|galon]] a'r nerfau yn amlygu eu hunain. Mae ychydig o ddiffyg thiamin yn rhoi symtomau megis [[colli pwysau]], 'malaise' a [[dryswch]].