Llyn Mair: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cywirio dolen
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Llyn yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] yw '''Llyn Mair'''. Saif fymryn uwchben [[Plas Tan y Bwlch]], ac wrth ochr y ffordd B4410 sy'n arwain trwy [[Rhyd (Gwynedd)|Rhyd]] i [[Llanfrothen|Lanfrothen]]. Mae ganddo arwynebedd o 14 acer, ac mae'r afon fechan sy'n gadael y llyn y llifo i mewn i [[Afon Dwyryd]].
 
Nid yw'r llyn yn un naturiol; fe'i crewyd gan [[W.E. Oakeley]] o Blas Tanybwlch ar gyfer cyflenwad dŵr ac fel anrheg i'w ferch. Mair, ar ei phen blwydd yn 21 oed. O'i gwmpas ceir coedwigoedd [[Derwn|derw]] naturiol, ac mae nifer o lwybrau yn arwain oddi wrth y llyn trwy'r coedydd hyn. Mae un yn arwain at orsaf Tan-y-Bwlch ar [[Rheilffordd Ffestiniog|Reilffordd Ffestiniog]].
 
==Llyfryddiaeth==