Trawsfynydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
</table>
 
Mae '''Trawsfynydd''' yn bentref yn ne [[Gwynedd]], ar lan ddwyreiniol [[Llyn Trawsfynydd]] ar ochr cefnffordd de-gogledd yr [[A470]]. Roedd y bardd enwog [[Hedd Wyn]] a'r merthyr Catholig [[John Roberts (sant)|Sant John Roberts]] yn hannu o'r ardal. Mae cerflyn o [[Hedd Wyn]] yn sefyll yng nghanol y pentref ac mae arddangosfa yn adrodd ei hanes yng Nghanolfan Treftadaeth Llys Ednowain yn y pentref. Mae 81.7% o'r pentrefwyr yn medru'r [[Gymraeg]].
 
Yn fwy diweddar, adeiladwyd [[atomfa]] fawr ar lannau'r llyn. Mae hi bellach yn cael ei dad-gomisiynu.
 
O safbwynt gwleinyddol, mae'r Pentref yn rhan o ward ehangach [[Trawsfynydd]] ac yn cael ei gynrychioli ar [[Gwynedd|Gyngor Gwynedd]] gan y Cynghorydd Thomas Ellis (Annibynnol).
 
Mae ysgol gynradd yn y pentref o'r enw [[Ysgol Bro Cynfal]], sy'n rhan o ddalgylch [[Ysgol y Moelwyn]], [[Blaenau Ffestiniog]]. Mae dwy dafarn yn y pentref o'r enw'r Cross Foxes a'r White Lion. Mae nifer o siopau ar gael yn y pentref gan gynnwys Swyddfa Bost, Fferyllfa a Cigydd. Mae dwy garej yn y pentref hefyd.
 
Mae gwasanaeth bws eithaf rheolaidd ar gael o'r pentref i [[Dolgellau|Ddolgellau]] a [[Blaenau Ffestiniog]] ac mae hefyd yn cael ei wasanaethu gan fysus y [[Trawscambria]] o [[Bangor|Fangor]] i [[Aberystwyth]].
 
===Hen bennill===