Peiriant ager: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: Uchafswm Limit = 20 ar Restr Wicidata; ayb, replaced: 19eg ganrif19g (2), 18fed ganrif18g using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Ceir cofnod am beiriant ager tua [[80]] OC, peiriant a elwid yr [[aeolipile]] a ddisgrifir gan [[Hero o Alexandria]]. Nid oes cofnod i beiriant ager gael ei ddefnyddio ar gyfer pwrpas ymarferol yn y cyfnod yma, fodd bynnag. Yn [[1712]] datblygodd [[Thomas Newcomen]] beiriant ager y gellid ei ddefnyddio, er enghraifft mewn mwyngloddiau. Datblygwyd y peiriant gan [[James Watt]], a gynhyrchodd beiriant oedd yn defnyddio 75% yn llai o [[glo|lo]] i gynhyrchu'r ager na pheiriant Newcomen, ac y gellid ei ddefnyddio i redeg peiriannau ffatrioedd diwydiannol. Cafodd hyn ddylanwad aruthrol ar ddatblygiad y [[Chwyldro Diwydiannol]].
 
Dangosodd y peiriannydd [[Richard Trevithick]] y gellid defnyddio peiriant ager (neu [[injan stêm]]) i dynnu tren rheilffordd. Gwnaeth hyn ar dramffordd Pen y Darren. Defnyddid injenni stêm ar Reilffordd Stockton a Darlington ond ''Rocket'' a enillodd cystadleuaeth [[Treialon Rainhill]] oedd yr injan a ddangosodd wir botensial y peiriant. Un o nodweddion yr injan hon oedd bwyler gyda nifer o diwbiau tan i hwyluso berwi dwr y bwyler.
 
Erbyn dechrau'r [[19g]], roedd peiriannau ager wedi dod yn bwysig mewn trafnidiaeth, ar gyfer [[trên|trenau]] a [[llong]]au. Erbyn hyn, mae llai o ddefnydd arnynt, ond mae ymchwil yn parhau ar dechnoleg peiriannau ager. Er enghraifft, defnyddir pwer yr haul yn Sbaen wedi'i ffocysu ar beiriant ager mawr, a hwnnw yn ei dro'n roi tyrbein ac yn creu trydan.<ref>[http://news.bbc.co.uk/2/hi/science/nature/6616651.stm Gweler eitem gan y BBC ar y datblygiad cyfoes hwn yn Sbaen]</ref>