Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hywel fab Emyr Llydaw"

Ychwanegwyd 17 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
tacluso
BNo edit summary
(tacluso)
'''Hywel fab Emyr Llydaw''' oedd un o gydymdeithion pennaf [[Arthur]] yn ôl traddodiadau cynnar [[Cymru]]. Roedd yn fab i [[Emyr Llydaw]], brenin [[Llydaw]].
 
==Hywel/Hoel==
===Hywel===
Yn ôl [[Sieffre o Fynwy]] yn yr ''[[Historia Regum Britanniae]]'' roedd Hywel yn gyfaill i Arthur gydol ei oes. Mae'r testun anghyflawn diweddarach ''Genedigaeth Arthur'' yn gwneud [[Gwyar]], chwaer Arthur a mam [[Gwalchmai ap Gwyar]], yn briod i Emyr Llydaw ac felly'n fam i Hywel, ond ni cheir sôn am hynny yn y ffynonellau cynnar, dim ond cyfeirio ato fel ''nai fab chwaer Arthur'' (''[[Brut Dingestow]]'').
*[[Sulien]]
 
===Ffynonellau===
*[[Rachel Bromwich]] (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, argraffiad newydd 1991). Tud. 407-8.
*Sir Paul Harvey a J. E. Heseltine, ''The Oxford Companion to French Literature'' (Rhydychen, arg. new. 1969). d.g. 'Tristan and Isolde'.