Arch Noa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 270px|bawd|Arch Noa : paentiad gan [[Edward Hicks, 1789]] [[Image:Noah private col.moscow.jpeg|150px|bawd|Arch Noa : paentiad Islamaidd i ddarlunio'r Coran,...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Yn ôl traddodiad, [[llong]] bren anferth a adeiladwyd gan y patriarch [[Noa]] i achub ei deulu a'r anifeiliaid rhag [[Y Dilyw]] oedd '''Arch Noa'''. Ceir ei hanes yn ''[[Llyfr Genesis]]'' yn yr [[Hen Destament]], y [[Torah]] Iddewig a'r [[Coran]].
 
Yn chwedl Feiblaidd Y Dilyw (Gen. 6-9), mae [[Duw]] yn gorchymyn i Noa adeiladu arch i achub ef a'i dri mab, sef [[ShemSem]], [[Ham (Beibl)|Ham]] a [[JaphethJaffeth]] (tad [[Gomer fab Jaffeth|Gomer]]) a'u gwragedd, a deuryw anifeiliaid y byd gyda nhw, rhag y Dilyw. Credir fod y chwedl o darddiad [[Babilon]]aidd.
 
Disgrifir hi (Gen 6:14-16) fel ystordy enfawr a fedrai nofio, er na ddywedir yn benodol bod y gwaelod ar ffurf llong. Yr oedd yn 300 [[cufydd]] (525 troedfedd) o hyd, 50 cufydd (87.5 troedfedd) o led, a 30 cufydd (52.5 troedfedd) o uchter. Ei defnydd oedd "pren goffer" (sydd a'i ystyr yn ansicr), wedi ei orchuddio oddi fewn ac oddi allan â [[pyg|phyg]], yn ôl yr afer gyda llongau [[afon Ewffrates]]. Rhennid hi yn ystafelloedd (yn llythrennol, "nythod"), ac yr oedd iddi dri llawr, gyda ffenestri o dan y to ar bob ochr, a drws yn ei hystlys.