Gemau'r Gymanwlad 1978: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sodacan (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 17:
}}
 
'''Gemau'r Gymanwlad 1978''' oedd yr unfed tro ar ddeg i [[Gemau'r Gymanwlad]] gael eu cynnal a'r tro cyntaf i'r teitl '''Gemau'r Gymanwlad''' gael ei ddefnyddio. [[Edmonton]], [[Alberta]],[[Canada]] oedd cartref y Gemau rhwng 3 - 12 Awst. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yn Edmonton yn ystod [[Gemau Olympaidd Modern|Gemau Olympaidd]] 1972 ym [[MunichMünchen]] gydag [[Edmonton]] yn sicrhau 36 pleidlais a [[Leeds]] yn cael 10.
 
Cafwyd boicot o'r gemau gan [[Nigeria]] mewn protest wedi i dîm Rygbi'r Undeb [[Seland Newydd]] ymweld â [[De Affrica]], oedd â system [[apartheid]], ym 1976. Yn dilyn y daith ddadleuol, cafwyd boicot o [[Gemau Olympaidd Modern|Gemau Olympaidd]] 1976 ym [[Montreal]], [[Canada]], gan 28 o wledydd [[Affrica]]. Arweiniodd y boicot ym [[Montreal]] at benaethiad y [[Gymanwlad]] yn arwyddo [[Cytundeb Gleneagles]] ym 1977 fyddai'n annog cymdeithasau chwaraeon i beidio gwneud cysylltiadau chwaraeon â [[De Affrica]]<ref>http://www.nzhistory.net.nz/culture/1981-springbok-tour/gleneagles-agreement</ref>. Er gwaethaf y cytundeb, penderfynodd Nigeria gadw draw rhag y Gemau yn Edmonton.