Hindŵaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
grwp gunge o Sir Fon yw Carma (nid yw'r erthygl yma yn gysylltiedig a Hindwiaeth)
Tagiau: Golygiad cod 2017
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 1:
'''Hindŵaeth''' yw [[crefydd]] gynhenid [[is-gyfandir India]] a phrif grefydd [[India]] ei hun heddiw. Mae’n un o'r crefyddau hynaf a gychwynodd ryw bedair mil o flynyddoedd yn ôl.
 
Bydd rhai o ddilynwyr y grefydd hon yn addoli un duw yn unig, ond bydd eraill yn addoli llawer. Y duw pwysicaf oll yw [[Brahman]], ond nid yw’n bosibl i neb ei addoli yn uniongyrchol; mae’n rhaid agosáu ato drwy gyfrwng duwiau eraill megis [[Brahma]] y Creawdwr, [[Sifa]] y Dinistriwr neu [[Fisnw]] y Ceidwad sydd hefyd yn dduw cariad.
 
Cred yr Hindŵ fod gan ddyn [[atman]] oddi wrth [[Brahman]], sef yr [[enaid]] tragwyddol sydd yn llifo drwy bob math o fywyd, boed anifail neu lysieuyn. Gall yr enaid hwn gael ei aileni mewn gwahanol ffurfiau dro ar ôl tro yn unol â chyfundrefn o wobrwyo a chosbi a elwir carma.
 
Os bu bywyd dyn yn ddrwg, mae'n debyg mai fel planhigyn neu anifail y bydd ei enaid yn ailymddangos, a bydd yn rhaid i’r enaid wneud hyn sawl gwaith cyn cael trigo mewn corff dynol eilwaith. Os bu bywyd dyn yn un da a rhinweddol, bydd ei enaid yn symud yn agosach at yr hapusrwydd a ddaw o fod gyda [[Brahman]].
 
Maent hefyd yn addoli mewn [[Mandir]], sef math o [[teml|deml]].