Orgraff: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: ka:ორთოგრაფია
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae orgraff unrhyw un iaith yn tueddu i amrywio o gyfnod i gyfnod yn hanes yr iaith honno. Dim ond yn bur ddiweddar y ceisiwyd safoni orgraff yn yr ieithoedd Ewropeaidd; cyn i [[geiriadur|eiriaduron]] ddod yn gyffredin roedd orgraff yn tueddu i fod yn fympwyol. Gwelir hyn yn achos y [[Gymraeg]]. Er i orgraff [[Cymraeg Canol]] fod yn bur sefydlog (er bod sillafiad gair yn amrywio), yng nghyfnod y [[Dadeni]] ceisiodd y Dyneiddwyr fel [[William Salesbury]] ac, yn ddiweddarach, [[Gruffydd Robert]], ddiwygio'r orgraff a chreu arwyddion newydd i gynrychioli seiniau'r iaith. Cafwyd sawl ymgais arall ond doedd gan Gymru ddim prifysgol na sefydliad arall a allasai safoni'r orgraff ac mewn canlyniad arosodd orgraff yr iaith Gymraeg yn fympwyol a dadleuol hyd ddechrau'r [[20fed ganrif]]. Brithir [[llenyddiaeth Gymraeg y 19eg ganrif]] â geiriau gwneud yn orgraff ryfedd [[William Owen Pughe]], er enghraifft. Cyhoeddodd Syr [[John Morris-Jones]] ei lyfr ''Orgraff yr Iaith Gymraeg'' yn [[1928]], sail Cymraeg [[ysgrifen]]edig safonol heddiw, sy'n gosod allan argymhellion Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd [[Prifysgol Cymru]] ar orgraff yr iaith.
 
===Llyfryddiaeth===
*John Morris-Jones, ''Orgraff yr Iaith Gymraeg'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1928).
 
===Gweler hefyd===
* [[Atalnodi]]
* [[Paleograffeg]]
* [[Ysgrifen]]
 
 
[[Categori:Orgraff| ]]
[[Categori:Termau iaith]]
[[Categori:Ysgrifennu]]