Normaniaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1:
Pobl o ogledd [[Ffrainc]], â'u gwreiddiau yn [[Llychlyn]] (yn bennaf o [[Denmarc|Ddenmarc]]) oedd y '''Normaniaid''' (yn llythrennol: ''gwŷr y Gogledd''). Cyrhaeddasant Ffrainc yn ystod y [[9g]]. O dan [[Rollo, Dug Normandi|Hrolf Ganger]] dilynasant [[Siarl y Tew]], brenin Ffrainc. Newidiodd Hrolf ei enw i Rollo (sef ffurf Ffrangeg ar Hrolf) a chafodd dir ger aber [[Afon Seine|Seine]] gan y brenin. Daeth tir Rollo yn [[Ddugiaeth Normandi]] ym [[911]] a enwyd ar ôl y Normaniaid.
Derbyniodd y Normaniaid [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]] yn grefydd a [[Ffrangeg]] yn iaith. Datblygodd eu diwylliant i fod yn wahanol iawn i ddiwylliant eu hynafiaid yn Llychlyn, ac yn wahanol hefyd i ddiwylliant pobl Ffrainc.
Yn nwyrain Ewrop, symudodd y Llychlynwyr (a adwaenid gan y pobl [[Slafig]] lleol wrth enw 'y Farangiaid) i ardal [[Kiev]].
|