Llanferres: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 4:
</table>
 
[[Pentref]] bychan a phlwyf yn [[Sir Ddinbych]], gogledd-ddwyrain [[Cymru]], yw '''Llanferres'''. Mae'n gorwedd wrth droed llethrau dwyreiniol [[Bryniau Clwyd]], ar y briffordd [[A494]], tua hanner fffordd rhwng [[Yr Wyddgrug]] i'r gogledd-ddwyrain a [[Rhuthun]] i'r de-orllewin.
 
Saif y pentref ar lan orllewinol [[Afon Alun]]. I'r gorllewin ceir [[bryngaer]] [[Foel Fenlli]].
Llinell 10:
Yn yr Oesoedd Canol roedd y [[plwyf]] yn rhan o [[cwmwd|gwmwd]] [[Iâl]], yn nheyrnas [[Teyrnas Powys|Powys]] ([[Powys Fadog]]).
 
== Chwedl werin ==
Mae [[Morfudd ferch Urien]] a'i frawd [[Owain ab Urien]] yn ymddangos mewn hen chwedl werin Gymraeg a gysylltir a [[rhyd]] yn y plwyf a elwid yn Rhyd-y-gyfarthfa. Byddai holl gŵn y wlad yn dod yno i gyfarth, ond ni feiddiai neb fynd yno i weld beth oedd yn ei achosi nes i [[Urien Rheged]] fynd, a darganfod merch yn golchi. Cafodd Urien ryw gyda'r ferch yn y rhyd, ac yna dywedodd hi ei bod yn ferch i frenin [[Annwn]], a bod tynged arni i olchi wrth y rhyd nes cael mab gan Gristion. Dywedodd wrth Urien am ddychwelyd ymhen blwyydyn, a phan ddaeth, cyflwynodd hi ddau blentyn iddo, Owain a Morfudd.
 
== Enwogion ==
Ganwyd yr ysgolhaig ac awdur Dr [[John Davies (Mallwyd)|John Davies]] (c. 1567 - 1644), a adwaenir fel Dr John Davies, Mallwyd, yn Llanferres tua'r flwyddyn [[1567]].
 
 
{{Trefi Sir Ddinbych}}