Oes y Seintiau yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegu cyfeirnodau
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 6:
Mae cloddio archaeolegol wedi datgelu rhywfaint am y cyfnod yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid. Y safle sydd wedi rhoi y rhan fwyaf o wybodaeth yw bryngaer [[Dinas Powys (bryngaer)|Dinas Powys]] ym Morgannwg, lle roedd y trigolion yn amlwg yn perthyn i haen uchaf cymdeithas. Ymhlith y darganfyddiadau roedd darnau crochenwaith o ardal [[Môr y Canoldir]], [[gwydr]] o ffynhonnell Diwtonaidd a gwaith metel Celtaidd. Credir mai llys pennaeth neu frenin oedd Dinas Powys yn y cyfnod hwn. Ceir hefyd dystiolaeth meini ag arysgrifen arnynt. Yng ngogledd Cymru roedd y rhain yn [[Lladin]], ond yn y de-orllewin a [[Brycheiniog]] mae'r arysgrifau yn [[Ogam]] neu'n ddwyieithog. Ymddengys fod Gwyddelod wedi ymsefydlu yma yn y cyfnod wedi i'r Rhufeiniaid adael os nad ynghynt, ac roedd teulu brenhinol [[Teyrnas Dyfed]] o dras Wyddelig.
 
Daeth [[Cristnogaeth]] Gymraeg i'r amlwg gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru, gyda thystiolaeth o Gristionogion mewn sefydliadau megis [[Caerwent]] a [[Caerleon]] yn y cyfnod Rhufeinig. Un o'r rhai oedd yn ysgogi'r datblygiad oedd Elen, gweddw Macsen Wledig <ref>Davies, J. 1990, Hanes Cymru, Penguin</ref> a daeth â syniadau Martin o Tours yn ôl i Gymru. Bu eu mab, Gastyn yn athro i nifer o blant Brychan Brycheiniog. Ym Mrycheiniog trosglwyddwyd perchnogaeth tir trwy llinell benywaidd ac mae mwyafrif o 24 o Ferched Brychain wedi rhoi ei enwau i llannau ac mae eu dylanwad wedi ledu y ffydd yn rhannol trwy priodi pennaethau llwythau eraill ar draws dde a dwyrain Cymru.<ref>Jones, T.T. 1977, The daughters of Brychan, Brycheiniog XVII</ref> Roedd [[Sant Dyfrig]] yn un o'r arweinwyr gwrywaidd cyntaf. Cawn wybodaeth am y seintiau yn eu bucheddau, ond yn anffodus mae'r rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi goroesi wedi eu hysgrifennu ar ôl y goncwest Normanaidd ac yn hybu buddiannu mynachdai neu eglwysi cadeiriol. Ymhlith y seintiau gwrywaidd enwocaf mae [[Dewi Sant]], [[Seiriol]], [[Teilo]], [[Illtud]], [[Cadog]] a [[Deiniol]]. Roedd cysylltiadau agos rhwng Cymru a Cernyw, [[Iwerddon]] a [[Llydaw]].
 
Ceir rhywfaint o wybodaeth am hanner cyntaf y [[6g]] yng ngwaith [[Gildas]], y ''De Excidio Britanniae'', sy’n bregeth mewn tair rhan yn condemnio pechodau’r [[Brythoniaid]] yn ei oes ef ac yn awgrymu mai oherwydd y pechodau hyn yr oedd y [[Sacsoniaid]] wedi goresgyn rhan helaeth o’r ynys. Mae’n condemnio pum teyrn yn arbennig, yn cynnwys [[Maelgwn Gwynedd]], brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], y mwaf grymus o'r pump.