Cymdeithas y Cymod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B manion
Llinell 1:
Mae '''Cymdeithas y Cymod''' yn rhan o fudiad [[heddwch]] rhyngwladol [[IFOR]] (''International Fellowship of Reconciliation'', Cymdeithas y Cymod Rhyngwladol) sydd â changhennau ar draws y byd ac yng [[Cymru|Nghymru]] hefyd. Mae'r aelodau yn wrthwynebwyr cydwybodol i ryfel a thrais. Credant mewn dulliau di-drais o ddatrys gwrthdaro, gan weithio dros heddwch. Mae bod yn [[heddychaeth|heddychwr]] yn golygu tystio'n barhaus i'r byd fod grym cariad yn gryfach na grym arfau, a bod casineb a dial yn arwain at ddistryw. Gwrthwynebant drais ar bob lefel mewn cymdeithas gan gynnwys trais yn y cartref, trais yn erbyn lleiafrifoedd yn ein cymdeithas, a thrais ar lefel ryngwladol.
 
==Sefydlu==
 
Sefydlwyd Cymdeithas y Cymod yn 1914 gan [[gwrthwynebwyr cydwybodol|wrthwynebwyr cydwybodol]] i[[Y ryfelRhyfel Byd Cyntaf]], ar sail eu cred [[Cristnogol|Gristnogol]]. Erbyn heddiw, mae wedi datblygu i fod yn fudiad aml-ffydd o heddychwyr gyda chenhadaeth ysbrydol i atal gwrthdaro a chreu cyfiawnder ar sail eu cred yng ngrym cariad Duw. Mae'r aelodau yn ceisio byw bywyd di drais, gan ymdrechu i greu trawsnewid personol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol.
 
"Beth bynnag a ddigwyddo, ni newidir ein perthynas ni. Rydym yn un yng Nghrist, ac ni all fod rhyfel rhyngom ni."