Cymdeithas y Cymod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwrthrychedd a mainion iaith
Llinell 26:
 
== Crefydd a Heddychiaeth==
Mae pob crefydd yn y byd wedi trafod grym didreisedd a drygioni trais. Mae'r [[Hindwaeth|Hindŵiaid]] yn dweud mai didreisedd yw'r gyfraith uchaf, a'r ddelfryd. Mae crefydd y [[Bwdha]] yn gwahardd lladd gan gredu mai'r ffordd o gyrraedd y lefel uchaf o fodolaeth yw drwy gynorthwyo eraill. Ystyr mai ystyr y gair [[Islam]] yw "heddwch". Mae un o'r deg gorchymyn a gafodd [[Moses]] gan Dduw yn dweud "Na ladd". Yn ôl y Beibl, aeth Iesu Grist yn bellach drwy orchymyn pobl i "garu eu gelynion". Roedd [[yr Eglwys Fore]] yn ymwrthod â thrais yn llwyr; roedd Cristnogion yn barod i farw yn hytrach na lladd neb.
 
Hyd at 312 OC pan ddaeth Cristnogaeth yn grefydd swyddogol yr [[Ymerodraeth Rufeinig]], drwy dröedigaeth yr ymerawdwr [[Cystennin Fawr]], roedd Cristnogion wedi dilyn ffordd tangnefedd yn unig. Wedi 312 fe gafwyd am y tro cyntaf y syniad o'r milwr Cristnogol, ac erbyn y bumed ganrif roedd [[Awgwstws o Hippo]] wedi datblygu'r syniad o "[[rhyfel cyfiawn]]". Ond mae Cymdeithas y Cymod heddiw yn credu yn yr hyn a welir yn yr Efengylau sef esiampl Iesu Grist o ddidreisedd cyson yn ystod ei fywyd a'i farwolaeth ar y groes.
 
 
 
== Gweler hefyd ==