Phil Bennett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 3:
Ganed Bennett yn [[Felinfoel]] a chwaraeodd ei gêm gyntaf dros [[Clwb Rygbi Llanelli|Lanelli]] yn [[1966]]. Bu'n gapten ar dîm Llanelli am chwech tymor yn olynol rhwng 1973 a 1979. Chwaraeodd 16 tymor i Lanelli i gyd, gan sgorio mwy na 2,500 o bwyntiau mewn dros 400 gêm.
 
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru ar [[22 Mawrth]] 1969 yn erbyn [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Ffrainc|Ffrainc]] gan ddod ar y maes i gymeryd lle [[Gerald Davies]]. Chwaraeodd mewn nifer o safleoedd ar y mas, gan cynnwys [[cefnwr]] cyn ennill ei le fel maswr Cymru. Fel olynydd [[Barry John]] yn y safle yma, roedd ganddo dasg anodd, ond datblygodd i fod yn un o'r maswyr gorau yn hanes y gêm. Yr oeddRoedd yn gapten Cymru pan enillwyd [[y Goron Driphlyg]] ddwywaith a'r [[Y Gamp Lawn (Rygbi)|Gamp Lawn]] unwaith. Yn ei 29 gêm dros Gymru sgoriodd 166 o bwyntiau.
 
Aeth ar daith i [[De Affrica|Dde Affrica]] gyda'r [[Y Llewod Prydeinig|Llewod Prydeinig]] yn 1974, a sgoriodd 103 o bwyntiau yn ystod y daith. Yn ddiweddarach, ef oedd capten y Llewod ar eu taith i [[Seland Newydd]] yn 1977.