Llanelian-yn-Rhos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
Llinell 1:
[[Pentref]] bychan yn [[Conwy (sir)|Sir Conwy]] yw '''Llaneilian-yn-Rhos''' (ceir yr amrywiad ''Llaneilan-yn-Rhos'' weithiau, yn enwedig mewn ffynonellau Saesneg). Mae'n gorwedd yn y bryniau ger arfordir [[Gogledd Cymru]], tua milltir a hanner i'r de o [[Hen Golwyn]]. Ceir golygfeydd braf o ben y lôn gul sy'n dringo o Hen Golwyn dros ardal [[Bae Colwyn]] a'r môr.
 
Ceir sawl bwthyn hen yn y pentref sy'n dyst i'w hanes. Fe'i gelwir yn Llaneilian''yn-Rhos'' am ei bod yn gorwedd yn hen [[cantref|gantref]] [[Rhos]], a fu hefyd yn un o [[Teyrnasoedd Cymru|deyrnasoedd cynnar Cymru]], er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a phlwyf [[Llaneilian]] arall, ym Môn.
 
== Ffynnon Eilian ==
[[Delwedd:Llaneilian1.jpg|250px|bawd|Eglwys Llaneilian-yn-Rhos: mynedfa]]
Bu Llaneilian yn enwog ar un adeg am Ffynnon Eilian, sy'n gorwedd tua hanner milltir o eglwys y plwyf. Fel y plwyf ei hun, fe'i cysylltir â [[Sant]] [[Eilian]], un o frodyr Sant [[Seiriol]], yn ôl traddodiad. Roedd y ffynnon yn adnabyddus am filltiroedd o gwmpas hyd at ddechrau'r 20fed ganrif fel "ffynnon felltith". Byddai ceidwad y ffynnon, yn gyfnewid am swm o arian, yn gollwng pin a darn o blwm gyda phapur ag enw rhywun arno wedi'i blygu tu mewn iddo i'r ffynnon ac yn yngan [[swyn]] i felltithio'r anffodusyn. Ond roedd yn ffynnon fendithiol hefyd; roedd yn gallu gwella cleifion, yn ôl y sôn, ac arferid clymu clytiau i goeden uwchben y ffynnon. Gŵr o'r enw John Edwards oedd ceidwad olaf y ffynnon. Roedd yn ennill bywoliaeth dda o'r swydd am ei fod yn gofyn tâl am ''godi'''r fellith hefyd ac felly'n elwa dwywaith. Ar ôl i'r Eglwys dderbyn cwynion, llenwyd y ffynnon hynafol gan yr awdurdodau yn 1829 a chafodd Edwards ddirwy o 15 swllt. Ond nid atalwyd y pererinion a ddeai yno hyd at flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif i gael bendith (neu yrru melltith, efallai).<ref>T. D. Breverton, ''The Book of Welsh Saints'' (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000), tt. 223-234.</ref><ref>Samuel Lewis, ''Topographical Dictionaray of Wales'' (Llundain, 1843), cyfrol II.</ref>
 
Gŵr o'r enw John Edwards oedd ceidwad olaf y ffynnon. Roedd yn ennill bywoliaeth dda o'r swydd am ei fod yn gofyn tâl am ''godi'''r fellith hefyd ac felly'n elwa dwywaith. Ar ôl i'r Eglwys dderbyn cwynion, llenwyd y ffynnon hynafol gan yr awdurdodau yn 1829 a chafodd Edwards ddirwy o 15 swllt. Ond nid atalwyd y pererinion a ddeai yno hyd at flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif i gael bendith (neu yrru melltith, efallai).<ref>T. D. Breverton, ''The Book of Welsh Saints'' (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000), tt. 223-234.</ref><ref>Samuel Lewis, ''Topographical Dictionaray of Wales'' (Llundain, 1843), cyfrol II.</ref>
 
== Enwogion ==