Branwen ferch Llŷr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: br:Branwen, merch Llŷr
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Mae'r chwedl yn agor gyda [[Bendigeidfran fab Llŷr]] yn sefyll ar graig yn [[Harlech]] yn edrych tua'r môr, lle gwelir llongau yn dynesu. Yr ymwelydd yw [[Matholwch]] brenin [[Iwerddon]], sydd wedi dod i ofyn am chwaer Bendigeidfran, [[Branwen]], yn wraig iddo. Cytunir i'r briodas, ond yn ystod y wledd i'w dathlu mae [[Efnysien]], hanner brawd Branwen, yn cyrraedd y llys. Mae'n ddig na ofynwyd am ei ganiatâd ef cyn trefnu'r briodas, ac mae'n anffurfio meirch Matholwch fel dial.
 
Yn Iwerddon mae Branwen yn byw'n gytun gyda Matholwch am gyfnod, a genir mab, [[Gwern (mytholeg)|Gwern]], iddynt, ond yna mae Matholwch yn cofio'r hyn a wnaeth Efnysien i'w geffylau ac yn dial am ei sarhad ar Franwen. Caiff ei gyrru i weithio yn y gegin am dair blynedd, ond mae'n dofi [[Drudwy|drudwy]] ac yn ei yrru draw i Brydain gyda neges i Fendigeidfran yn dweud sut y mae'n cael ei thrin. Mae Bendigeidfran a'i fyddin yn croesi i Iwerddon, y fyddin mewn llongau ond Bendigeidfran yn cerdded trwy'r môr, gan ei fod yn gawr na all yr un llong ei gario.
 
Cynhelir cyfarfod i drafod amodau heddwch, ond mae Efnysien yn rhoi diwedd ar hyn trwy afael yn Gwern, mab Branwen a Matholwch, a'i daflu i'r tân. Rhyfel yw'r canlyniad, a lleddir llawer o filwyr ar y ddwy ochr. Yr oedd Matholwch wedi derbyn pair hud gan Fendigeidfran fel iawn am ei sarhad, a phan mae'r Gwyddelod yn rhoi eu rhyfelwyr marw ynddo, maent yn dod yn fyw eto. Mae Efnysien yn ymguddio ymhlith y meirwon, a phan roir ef yn y pair dadeni mae'n ei dorri, ond yn marw ei hun yn yr ymdrech.