Hinsawdd y Riviera: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rhys (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Rhys (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Mae [[hinsawdd y Canoldir]] ar y ''[[Riviera]]'' a'r ''[[Côte-d'Azur]]'', ond gyda ychydig o wahaniaethau. Fe fydd y mynyddoedd sy'n union i'r gogledd yn eu chysgodi yn erbyn y gwyntoedd oer
*Y gwanwyn : cymhedrol a gwlyb.
*Yr haf : poeth a heulog.
Llinell 5:
*Y gaeaf : mwyn a heulog (braidd yn oer weithiau).
Er bod cyfradd uchel o haul, mae yna gyfradd uchel o law hefyd. Pan fydd hi'n glawio fe fydd hi'n dueddol i lawio'n drwm ac yn ddibaid. Mae yna lawer o stormydd mellt a tharanau a llifogydd. Ar ôl storm fe fydd yr haul yn tywynnu'n gryf unwaith eto.
Prin iawn fydd tymheredd yr haf yn codi uwchlaw 34°C. Os fydd hwn yn digwydd fe fydd e'n achosi terfysg neu storm a bydd y tymheredd yn gostwng eto.
Ar ôl haf heulog a phoeth pan fydd y planhigion ynghwsg, fe fydd yr hydref fel ail wanwyn.
Prin fydd tymheredd yr arfordir yn gostwng islaw -2°C yn y gaeaf. Gellir hi fod yn rhewllyd yn y bore, ond erbyn y prynhawn gall y tymheredd godi yn agos i 20°C.
|