Marathon (ras): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Tarddiad: Manion, replaced: ail ganrif → 2g using AWB
Y Farathon Fodern
Llinell 7:
 
Daw'r enw "marathon" o chwedl [[Pheidippides]], negesydd Groegaidd. Yn ôl y chwedl, cafodd ei ddanfon o faes y gad [[Brwydr Marathon]] i [[Athens]] er mwyn cyhoeddi fod y [[Persia]]iaid wedi'u trechu yn Mrwydr Marathon (lle y bu'n ymladd), a gynhaliwyd yn Awst neu Fedi, 490 BC. Dywedir iddo redeg yr holl daith heb stopio unwaith, gan fynd i mewn i'r neuadd gan gyhoeddi νενικήκαμεν (nenikekamen, "rydym wedi ennill"), cyn syrthio'n farw. Ymddengys yr hanes am y daith o Marathon i Athens am y tro cyntaf yn "On the Glory of Athens" gan Plutarch yn y ganrif gyntaf OC, a dyfynna un o weithiau coll Heraclides Ponticus, sy'n rhoi'r enwau Thersipus o Erchius neu Eucles i'r rhedwr. Adrodda Lucian o Samosata (yr 2g OC) yr hanes hefyd, ond rhydd yr enw Philippides (ac nid Pheidippides) i'r chwedl.
 
===Y Farathon Fodern===
Cafodd y ras fodern gyntaf ei rhedeg yn 1896 yn y Chwaraeon Olympaidd. Rhedir dros 26 milltir 385 llath yn awr a hynny oherwydd i'r Frenhines Alexandra o Brydain yn 1904 fynnu bod y ras yn terfynnu yn yr union fan yr oedd hi yn sefyll.