Abdullah ibn al-Mu'tazz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cystrawen wici
Llinell 5:
Roedd yn fardd medrus a edmygid yn fawr gan ei gyfoeswyr. Ysgrifennodd astudiaeth ar [[llenyddiaeth Arabeg|farddoniaeth Arabeg]] [[clasur|glasurol]], y ''Kitab al-Badi''. Yn ei gerddi mae crefft al-Mu'tazz yn dwyllodrus o syml. Mae'n canolbwyntio ar gyfuno delweddau trawiadol â metaffor annisgwyl. Mwynheai fywyd i'r eithaf a does ganddo ddim cywilydd mewn canu pleserau'r cnawd a gwin, a gwneud hynny yn y modd mwyaf soffistigedig, bydol a chraff. Eironi a llygad am harddwch a lliw sy'n nodweddu ei farddoni.
 
===Ffynhonnell===
*G. B. H. Wightman a A. Y. al-Udhari (cyf.), ''Birds Through a Ceiling of Alabaster[:] Three Abbasid poets'' (Penguin, Llundain, 1975)