Probus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 3:
'''Marcus Aurelius Probus''' ([[19 Awst]] [[232]] – [[Medi]]-[[Hydref]] [[282]]) oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] rhwng [[276]] a 282.
Ganed Probus yn Sirmium, yn nhalaith [[Pannonia]], ac ymunodd a'r fyddin yn ŵr ieuanc. Daeth i sylw oherwydd ei wasanaeth dan yr ymerodron [[Valerian I]], [[Tacitus (ymerawdwr)|Tacitus]] ac [[Aurelian]]. Enwyd ef yn rhaglaw rhan ddwyreiniol yr ymerodraeth gan yr ymerawdwr Tacitus, ac wedi marw'r ymerawdwr cyhoeddwyd Probus yn ymerawdwr yn ei le gan ei lengoedd.
Treuliodd Probus ei deyrnasiad fel ymerawdwr yn ymladd i ddiogelu ffiniau'r ymerodraeth, yn arbennig yn nhaleithiau [[Gâl]] yn erbyn y llwythi [[Germaniaid|Almaenaidd]]. Llwyddodd i orchfygu tair ymgais i'w ddiorseddu, gan [[Saturninus]], [[Proculus]] a [[Bonosus]]. Credai Probus fod angen cadw'r milwyr yn brysur i osgoi gwrthryfela, ac felly yn amser heddwch rhoddwyd hwy ar waith i gynorthwyo'r gymuned, er enghraifft yn plannu gwinwydd yn Ngâl a Pannonia. Yn naturiol nid oedd hyn yn boblogaidd gyda'r milwyr eu hunain, a llofruddiwyd Probus gan ei filwyr ei hun tra'r oedd wrthi'n ceisio sychu corsydd gerllaw ei dref enedigol. Cyhoeddwyd Marcus Aurelius [[Carus]] yn ymerawdwr tua'r adeg yma, ond mae'n ansicr a oedd hyn cyn llofruddiaeth Probus, ac felly'n rheswm dros y llofruddiaeth, neu wedi i'r newyddion am lofruddiaeth Probus ei gyrraedd.
|