58,004
golygiad
(symbol) |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Agwedd o feddwl sy'n ymlynu wrth [[rheswm (athroniaeth)|reswm]] yn hytrach na [[dogma]] ac awdurdod yw '''rhyddfeddyliaeth'''<ref>{{dyf GPC |gair=rhyddfeddyliaeth |dyddiadcyrchiad=17 Ebrill 2017 }}</ref> neu '''ryddfeddwl'''. Defnyddir y gair yn enwedig mewn materion ffydd a [[diwinyddiaeth]], ac felly mae rhyddfeddyliaeth yn gysylltiedig â ffurfiau ar sgeptigiaeth [[crefydd|grefydd]]ol megis [[anffyddiaeth]], [[agnostigiaeth]], [[anghrefydd]], [[dyneiddiaeth]], [[anghydffurfiaeth]], a [[rhesymoliaeth]]. Rhoddir yr enw Rhyddfeddyliaeth â Rh fawr ar fudiad o athronwyr a llenorion adeg [[yr Oleuedigaeth]] oedd yn ddylanwadol yn llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a bywyd deallusol y gwledydd [[Cristnogaeth|Cristnogol]] yng Ngorllewin Ewrop a Gogledd America yn y 18g.
Eginodd syniadau'r mudiad a elwir bellach yn Rhyddfeddyliaeth ym Mhrydain yn niwedd yr 17g. Dechreuwyd defnyddio'r gair yn sgil cyhoeddi'r traethawd ''A Discourse of Free-thinking'' (1713) gan y Sais [[Anthony Collins]]. Duwgredwr ac nid anffyddiwr oedd Collins a wrthodai crefydd ddatguddiedig gan arddel [[deistiaeth]]. Fel rheol, credai'r deistiaid mewn creawdwr y bydysawd ond nid bod goruwchnaturiol sy'n ymyrryd mewn materion bydol. Mabwysiadwyd yr enw rhyddfeddylwyr yn [[term mantell|derm mantell]] gan ddeistiaid, anffyddwyr ac amheuwyr eraill i amlygu eu rhyddhâd oddi wrth ragfarnau crefyddol, ac oddi wrth bob cyfundrefn grefyddol. Ym 1718 dechreuwyd cyhoeddi'r papur wythnosol, ''The Freethinker''.
Ennynai ymateb amddiffynnol gan gredinwyr o bob math. Cyhoeddwyd llu o atebion i draethodau Collins, Tindal a'r lleill, a rhoddai sawl clerigwr, er enghraifft [[Benjamin Hoadly|yr Esgob Hoadly]], ei bin ar bapur i fynnu'r ffydd a'i hawdurdod fel ei gilydd.
== Cyfeiriadau ==
|
golygiad