Santes Dwynwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 5:
 
== Bywyd Dwynwen ==
* Yn ôl y hanes yr oedd Dwynwen mewn cariad a Maelon, mab pennaeth llwyth arall. Ceisiodd Maelon cymeryd mantais rhywiol o'i chariad ond gwrthododd Dwynwen. Gwylltiod Maelon a'i threisio hi "gan dwyn malais arni yng gwŷdd y byd" <ref name=":0" /> Collodd Maelon pob diddordeb ynddi wedyn ("yn troi fel dalp o iâ). Yn ei trallod dihangodd hi i'r goedwig lle y gweddïodd ar i Dduw ei rhyddhau o'i chariad at Maelon. Gweddiodd yn daer nes blino yn llwyr a syrthio i cysgu. Breuddwydiodd ei fod wedi yfed diod oedd yn ei iachàu hi ond fod Maelon wedi yfed o'r un diod a'r diod wedi ei droi yn dalp o iâ. Gwnaeth Dwynwen tri cais mewn gweddi. Yn gyntaf, gofynnodd am i Maelon gael ei ddadmer. Yn ail gofynnodd i Dduw ateb ei gweddîau dros gariadon fel y buasent, naill yn cael dedwyddwch parhol os oeddent yn caru yn gywir o'r galon, neu yn cael eu iachau o'u nwyd a'u traserch. Yn drydydd gofynnodd am beidio â dymuno priodi byth. Ar ôl i'w dymuniadau cael eu gwireddu, daeth Dwynwen yn nawddsant cariadon.<ref>Spencer, R, 1990, Saints of Wales and the West Country, Llannerch</ref>
 
=== Sefydlu Llanddwyn a Llangeinwen ===
Symudodd Dwynwen gyda'i chwaer Ceinwen i Fôn a oedd wedi goresgyn gan Pictiaid. Y mae'n debyg aethant at perthnasau. Sefydlodd Dwynwen llan ar phenryn a elwir heddiw yn 'Ynys Llanddwyn' ger traeth Niwbwch ond nid oedd yn ynys pryd hynny. <ref>Kidson C, 1994, mewn sgwrs</ref> Ni bu Llanddwyn yn fan anhysbell yn y pumed canrif fel y mae hi heddiw; y mae'n llai na phump milltir o Aberffraw, un o'r prif llysoedd Cymru o'r Oes Haearn hyd at yr Oesoedd Canol. Bu yn agos hefyd i'r prif llwybr morwrol i Iwerddon o ollewin Ynys Môn i Dun Laoghaire. Bu Dwynwen byw ar Llanddwyn tan ei marwolaeth yn 460 O.C
 
=== Dywediadau Dwynwen ===
* Priodolir iddi y dywediad "nid ennillir galonnau cyn gynted a sirioldeb" a dyfynnir yn gan Baring -Gould and Fisher, <ref name=":0">Baring -Gould,s a Fisher, J 1907, Lives of the British Saints, Cymrodorion</ref> er eu bod hwy yn cofnodi fersiwn wahanol o'r hanes. Iolo Morgannwg yw'r ffynhonnell dywediad arall: 'A glywaist ti chwedl Dwynwen Santes, merch deg Brychan hen? Nid caruaidd ond llawen.' a geir yn [https://archive.org/stream/iolomanuscripts00iologoog/iolomanuscripts00iologoog_djvu.txt llawysgrif 1848]'..
[[Delwedd:The Ruined Church, Lighthouse and Main Cross on Llanddwyn - geograph.org.uk - 255301.jpg|bawd|chwith|Adfeilion Eglwys Llanddwyn a'r [[Croes Geltaidd|Groes Geltaidd]].]]
Yn ôl y tair gweddi Lladin a ychwanegwyd at Lyfr Offeren Bangor yn 1494, cerddodd Dwynwen yr holl ffordd dros fôr [[Iwerydd]] rhag llid [[Maelgwn Gwynedd]]. Yn llawysgrifau [[Iolo Morganwg]] ceir fersiwn wahanol, sef y fersiwn uchod. Ym marddoniaeth [[Dafydd Trefor]] (c.1460 - 1528) disgrifir cleifion yn cael eu hiacháu gerllaw ei ffynnon a'i chapel. Bu Dwynwen yn enwog ledled Gwynedd yn yr Oesoedd Canol a bu ymweld a Llanddwyn yn boblogaidd iawn.
 
==Dafydd ap Gwilym==
Saif adfeilion eglwys Dwynwen a codwyd yn yn 14g hyd heddiw ar ynys Llanddwyn ar safle y llan gwreiddiol. Yn ystod y 14g gwelodd y bardd Dafydd ap Gwilym ddelw aur o Dwynwen y tu mewn i'r eglwys. Yn ddewr (neu'n ddigywilydd) gofynnodd iddi fod yn llatai rhyngddo a Morfudd, y ferch a ddymunai ei hennill. Gwnaeth hyn, er fod Morfudd eisoes yn briod.
 
== Coelion y Werin am Ddwynwen ==