Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Seisyllwg"

Lleihawyd o 2 feit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 8fed ganrif8g using AWB)
B (→‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB)
Ar ddechrau'r [[8g]] rheolai'r brenin [[Seisyll ap Clydog]] yn [[Teyrnas Ceredigion|Ngheredigion]]. Tua'r flwyddyn [[730]] cipiodd Seisyll [[Ystrad Tywi]] oddi wrth [[Rhain ap Cadwgan]], brenin [[Teyrnas Dyfed|Dyfed]], a'i ychwanegu at ei deyrnas ei hun. Rhoddwyd yr enw Seisyllwg ar y deyrnas estynedig newydd. Cofnodir fod ei fab, [[Arthen ap Seisyll]], wedi marw yn [[807]].
 
Yn [[872]] boddwyd trwy ddamwain [[Gwgon ap Meurig]], brenin Seisyllwg, ac ychwanegodd [[Rhodri Mawr]] ei deyrnas at ei feddiannau trwy ei briodas ag Angharad, chwaer Gwgon a gor-gor-gor-wyres Seisyll ap Clydog. Yr oeddRoedd Rhodri yn awr yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Ar farwolaeth Rhodri etifeddwyd Seisyllwg gan [[Cadell ap Rhodri]] ac fe'i ail-sefydlwyd am gyfnod fel teyrnas annibynnol. Llwyddodd Cadell i goncro [[Teyrnas Dyfed|Dyfed]] yn 904/905, a'i rhoi i'w fab [[Hywel Dda]] i'w llywodraethu.
 
Pan etifeddodd Hywel Seisyllwg hefyd yn [[920]] unodd y ddwy deyrnas i greu [[Teyrnas Deheubarth]].
58,007

golygiad