Selyf ap Cynan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 6ed ganrif → 6g using AWB |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1:
Yr adeg honno yr oedd ffiniau Powys yn ymestyn i'r dwyrain, dros [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]] heddiw, ac yn cynnwys rhannau sylweddol o'r [[Y Mers|Gororau]]. Cafodd Selyf ei anfon gan ei dad (mae modd darllen rhai ffynonellau i olygu fod Cynan yn farw a'i fab yn teyrnasu) i geisio amddiffyn Powys rhag yr [[Eingl-Sacsoniaid]]. Ymunodd Selyf â'i ryfelwyr â llu y [[Brythoniaid]] a syrthiodd ym [[Brwydr Caer|Mrwydr Caer]] (615 neu 616) (ceir y cofnod yn yr ''[[Annales Cambriae]]'') pan ymladdodd yn erbyn [[Aethelfrith|Æthelfrith o Northumbria]]. Dyma'r cysylltiad cyntaf rhwng brenin o Loegr â Chymry.<ref>Y Gwyddoniadur Cymreig; [[Gwasg Prifysgol Cymru]]; 2008; tud 90.</ref> Mae'n bosibl fod Selyf yn arweinydd lluoedd y Brythoniaid yn y frwydr dyngedfennol honno, a dorrodd y cysylltiad rhwng teyrnasoedd [[Cymru]] a'r [[Hen Ogledd]].
|