Simon y dewin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) B Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB |
||
Llinell 11:
Meddai Simon, "Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti'n ei ddweud yn digwydd i mi."
|source=— Actau 8:18–24<ref>[http://www.beibl.net/beibl-chwilio?pennod=8&book=BNET%3AActs&viewid=BNET%3AActs.8&newwindow=BOOKREADER&math= Actau 8], beibl.net. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.</ref> }}
Cyflwynir ef i'n sylw gyntaf yn y Beibl fel un yn arfer swyngyfaredd yn un o ddinasoedd [[Samaria]] – Sichar hwyrach – a chyda'r fath lwyddiant fel y dywedwyd amdano, "Mawr allu Duw yw hwn" (Actau 8:10). Cysylltir yr adnod honno â hanesion diweddarach sy'n sôn am ei Feseiandod honedig. Gan fod pregethau a gwyrthiau [[Philip yr Efengylydd]] wedi tynnu ei sylw, daeth yn un o'i ddisgyblion, a bedyddiwyd ef ganddo. Wedi hynny efe a welodd yr effaith a gynhyrchwyd gan arddodiad dwylaw, fel y dilynid ef gan yr apostolion Pedr ac Ioan; a chan ei fod yn awyddus i gael awdurdod tebyg iddo ei hun, efe a gynnigiodd swm o arian amdani.
Y darn byr hwn yn Actau'r Apostolion yw'r unig sôn am Simon y dewin yn y canon Beiblaidd, ond stori bwysig ydyw gan iddi nodi tröedigaeth Samaria yn wlad Gristnogol ac felly cyflawni peth o addewid yr Aglwydd yn adnod Actau 1:8. Yn sgil merthyrdod [[Steffan (sant)|Steffan]] a'r erledigaeth a ddaw, aeth Philip i daenu'r efengyl i'r Samariaid. Tanlinellir y llwyddiant ysgubol hwn gan ddisgrifiad y bobl dan gyfaredd Simon, a throdd hyd yn oed y swynwr ei hun i arweinyddiaeth Philip a'r ffydd Gristnogol.<ref name=NCE>{{eicon en}} "[http://www.encyclopedia.com/religion/encyclopedias-almanacs-transcripts-and-maps/simon-magus Simon Magus]" yn y ''New Catholic Encyclopedia'' (2003). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 15 Ebrill 2017.</ref> Heb os nac oni bai, bwriad Simon wrth geisio prynu'r nerth ysbrydol yw ychwanegu tric arall at ei grefft. Gwnai Pedr yn glir taw nid cast hud a chanddo bris yw'r gallu hwn. Mae ymateb dig yr apostol yn ocheliad yn erbyn llygru'r eglwys drwy bresenoldeb arian, tarddiad y pechod sy'n dwyn ei enw, simoniaeth.
Llinell 28:
[[Delwedd:Nuremberg_chronicles_f_262v_(septima_aetas).jpg|bawd|Darluniad o gwymp Simon yn ''Liber Chronicarum'' (Cronicl Nuremberg; 1493).]]
=== Bywgraffiad cyfochredig ===
Ganed ef yn Gitton, pentref yn Samaria, ger Nâbulus; ei enw diweddar ydyw Kuryet Jit.
Yn ôl ysgrifau Cristnogol y 3g, honnai Simon taw efe oedd y [[Meseia]]. O flaen yr Ymerawdwr Nero (54–68), fe heriodd Bedr a datganodd y gallai hedfan. Ceisiodd Simon arddangos ei allu goruwchnaturiol drwy neidio oddi ar Fforwm Rhufain. Mewn atebiad i weddïau Pedr, syrthiodd Simon a dorodd ei forddwyd, ac esgyrn ei ffêr; wedi ei lethu gan ofid, fe gyflawnodd hunanladdiad. Hwn yw un o'r chwedlau mwyaf boblogaidd amdano, a phortreadir cwymp y ffug-Meseia Simon yn aml yng nghelfyddyd Gristnogol.
|