Hanes Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B roboto: sv:Wales historia estas artikolo elstara
Llinell 15:
Yr oedd Cymru yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]] am tua 350 o flynyddoedd. Cawsai'r Rhufeiniaid a'u diwylliant effaith sylweddol ar y wlad a'i phobl. Gadawodd y Rhufeiniaid [[Ffordd Rufeinig|rwydwaith o ffyrdd]] ar eu hôl a sefydlasant nifer o drefi. Cafodd ei hiaith, [[Lladin]], ddylanwad mawr ar yr iaith [[Gymraeg]] wrth iddi ymffurfio o [[Brythoneg|Frythoneg Diweddar]]; mae tua 600 o eiriau Cymraeg yn tarddu o'r cyfnod hwnnw (yn hytrach nag o Ladin yr Oesoedd Canol fel yn achos ieithoedd eraill fel Saesneg). Credir i'r [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]] gyrraedd Cymru yn y cyfnod Rhufeinig hefyd.
 
Roedd Cymru'n gartref i lwythau [[Celtiaid|Celtaidd]] fel y [[Silwriaid]] yn y de-ddwyrain a'r [[Votadini]] yn y gogledd-orllewin, a'u tiriogaeth yn cyfateb yn fras i'r [[Teyrnasoedd Cymru|teyrnasoedd Cymreig]] cynnar a sefydlwyd ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid. Roedd y Rhufeiniaid yn arfer adeiladu hewlydd syth.
 
==Oes y Seintiau yng Nghymru==