Tacitus (ymerawdwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 5:
Ganed Tacitus i deulu distadl yn un o'r taleithiau ger [[Afon Donaw]]; [[Noricum]], [[Pannonia]] neu [[Raetia]]). Ni wyddir llawer am ei yrfa, ond bu'n [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] yn [[273]].
 
Wedi i'r ymerawdwr [[Aurelian]] gael ei lofruddio, bu cyfnod o tua 6 mis heb ymerawdwr. Yn ystod y cyfnod hwn bu'r [[Senedd Rhufain|Senedd]] a'r llengoedd yn trafod pwy fyddai olynydd Aurelian, gan nad oedd ef ei hun wedi penodi olynydd. Yn y diwedd dewiswyd Tacitus. Yr oeddRoedd tua 75 oed pan gyhoeddwyd ef yn ymerawdwr.
 
Pan ddaeth yn ymerawdwr penododd Tacitus ei frawd [[Florianus]] yn bennaeth [[Gard y Praetoriwm]]. Yn fuan wedyn ail-ddechreuodd y rhyfeloedd ar ffiniau'r ymerodraeth pan groesodd y llwythi [[Germaniaid|Almaenaidd]] dros [[Afon Rhein]]. Yr un pryd symudodd y [[Gothiaid]] i [[Asia Leiaf]], gan haeru eu bod wedi eu galw yno gan Aurelian i ymlass yn erbyn y [[Persia]]id. Aeth Tacitus i ddelio a'r Gothiaid tra'r aeth ei frawd Florianus i ymladd ar Afon Rhein. Bu'r ddau'n llwyddiannus, a chafodd Tacitus fuddugoliaeth dros yr [[Alaniaid]] gerllaw Palus Maeotis.