Trajan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: Canrifoedd a manion using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 3:
'''Caesar Nerva Traianus Germanicus''' neu '''Trajan''' ([[18 Medi]] [[53]] – [[9 Awst]] [[117]]), oedd [[Ymerodron Rhufeinig|Ymerawdwr Rhufain]] o [[28 Ionawr]] [[98]] hyd ei farwolaeth. Ganwyd '''Marcus Ulpius Traianus'''.
 
Ganed Trajan yn y ddinas [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]] [[Italica]] ([[Santiponce]] heddiw), heb fod ymhell o ddinas [[Hispalis]] ([[Sevilla]] heddiw), rhan o dalaith [[Baetica]]. Yr oeddRoedd ei dad, oedd a'r un enw, yn un o ddilynwyr pwysicaf [[Vespasian]]. Dilynodd Trajan yr yrfa gyhoeddus draddodiadol, gan ddod yn gonswl yn [[91]]. Priododd Ulpia Plotina, ond ni fu ganddynt blant.
 
Yn ystod teyrnasiad [[Nerva]] daeth Trajan yn rhaglaw talaith [[Germania Superior]]. Mabwysiadodd Nerva ef fel mab ac fel olynydd iddo. Yr oeddRoedd Trajan yn filwr galluog, ac ar ôl dod yn ymerawdwr parhaodd i ymladd ar [[Afon Rhein]] ac [[Afon Donaw]]. Ni ddaeth i Rufain am y tro cyntaf fel ymerawdwr hyd y flwyddyn [[99]]. Bu'n ymladd llawer yn erbyn y [[Dacia]]id, oedd yn byw yn yr ardal sy'n awr yn [[Rwmania]]. Bu dau ryfel yn erbyn [[Decebalus]], brenin Dacia, a gorchfygwyd ef gan Trajan, gan greu talaith Rufeinig newydd [[Dacia]]. Adeiladwyd [[Colofn Trajan]] yn Rhufain i goffhau ei fuddugoliaeth. Tua'r un pryd crewyd talaith [[Arabia Petraea]].
 
[[Delwedd:Roman empire.png|bawd|chwith|250px|Yr ymerodraeth Rufeinig ar ei heithaf yn [[117]], ar ddiwedd teyrnasiad Trajan]]