Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Cymro"

Ychwanegwyd 4 beit ,  3 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
(→‎top: Manion using AWB)
Yn 1845 fe gyhoeddwyd papur o'r enw 'Y Cymro' gyntaf, papur eglwysig ei naws gyda thipyn o Saesneg. Cyhoeddwyd y papur yma ym Mangor gan yr argraffydd Edward Williams ond daeth i ben wedi dwy flynedd oherwydd dyledion. Cafodd gartref yn Llundain am flwyddyn gyda John ames (Ioan Meirion) fel golygydd. Symudodd i Dreffynnon am gyfnod rhwng 1851 a 1860 a'i cyhoeddwyd gan William Morris, yna bu yn Ninbych am chwe blynedd. Wedi bwlch o bedair blynedd fe'i ail-gychwynwyd gan [[Isaac Clarke]], Lerpwl (gynt o 'Siop Nain', [[Rhuthun]]) ar 22 Mai 1890 o dan olygyddiaeth [[Isaac Foulkes]] (Llyfrbryf). Yn ystod y cyfnod, cyhoeddodd [[Daniel Owen]] benodau o'i nofel yn y papur.
 
Yn 1907 mudodd y papur i'r Wyddgrug o dan olygyddiaeth y bardd [[T. Gwynn Jones]] oedd y golygydd. Daeth i ben eto rhwng 1909 a 1914 cyn cael cartref yn Nolgellau. Papur crefyddol ei naws oedd hwn o dan olygyddiaeth [[Evan Williams Evans]] a daeth i ben yn 1931.<ref>[http://www.rhwydwaitharchifaucymru.info/cgi-bin/anw/fulldesc_nofr?inst_id=42&coll_id=10020&expand= Gweler 'Rhwydwaith Archifau Cymru']</ref>. Cafodd ei ail-lansio yn [[Dolgellau|Nolgellau]] yn 1920 gan [[William Evans]].
=== Oes fodern===
Cychwynnodd oes fodern y papur newydd yn 1932 pan brynwyd y teitl gan [[Rowland Thomas]] (c.1887-1959) o gwmni Woodall, Minshall, Thomas a'r Cwmni, Croesoswallt (a oedd yn berchen ar gwmni cyhoeddi Hughes a'i Fab, Wrecsam). Er nad oedd yn siaradwr Cymraeg, breuddwyd Thomas oedd sefydlu papur newydd Cymraeg. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ar [[4 Rhagfyr]] [[1932]], gyda [[John Tudor Jones (John Eilian)|John Eilian]] yn olygydd. Nid oedd y papur yn gwbl llewyrchus i ddechrau ond erbyn 1939 roedd gobaith o wneud elw. Symudwyd y swyddfa i Groesoswallt lle aeth y papur o nerth i nerth o dan olygyddiaeth [[John Roberts Williams]]. Symudwyd eto i'r Wyddgrug pan ddaeth y papur yn ran o gwmni Papurau Newydd Gogledd Cymru.<ref>''Y Cymro,'' Ionawr 5, 2007</ref>.