Siarter brenhinol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Siarter a roddir gan Sofran ar gyngor y cyngor cyfrin yw '''Siarter Brenhinol''', er mwyn cyfreithloni corfforaeth, megis dinas, cwmni, prifysgol ac yn y blaen. Ma...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:04, 7 Tachwedd 2008

Siarter a roddir gan Sofran ar gyngor y cyngor cyfrin yw Siarter Brenhinol, er mwyn cyfreithloni corfforaeth, megis dinas, cwmni, prifysgol ac yn y blaen. Mae Siarter Brenhinol yn fath o lythyr breinlen. Yn y canoloesoedd yn Ewrop, roedd ond yn gyfreithlon i fasnachu mewn dinasoedd, a'r unig fodd o sefydlu dinas oedd drwy gael Siarter Brenhinol. Cysidrir y flwyddyn i ddinas dderbyn ei Siarter Brenhinol i fod y flwyddyn pryd y sefydlwyd, nid yw'r ffaith y bu anheddiad yno gynt yn newid hyn. Gall hefyd roi neu greu statws arbennig ar gyfer corfforaeth. Mae rhoi Siarter Brenhinol yn Uchelfraint Brenhinol.

Ar un adeg, Siarter Brenhinol oedd yr unig fodd o ffurfio corfforaeth, ond erbyn hyn mae modd arall megis cofrestru cwmni cyfyngedig. Mae'r British East India Company, Hudson's Bay Company, Peninsular and Oriental Steam Navigation Company (P&O), British South Africa Company a'r Gwladfeydd Americanaidd ymysg y corfforaethau a sefydlwyd odan Siarter Brenhinol.