Hormon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
2
BDim crynodeb golygu
Llinell 14:
[[Cemegolyn|Cemegolion]] sy'n cael eu cynhyrchu a'u gollwng gan [[cell|gelloedd]] mewn rhannau eraill o'r corff yw '''hormon''' (a ddaw o'r gair Groeg ὁρμή - sef 'sbarduno'). Mae nhw'n cael eu hastudio gan y byd [[meddygaeth|meddygol]] fel rhan o [[anatomeg ddynol]]. Mymryn lleiaf erioed sydd ei angen i newid [[metaboledd]] cell. Negesydd cemegol ydyw mewn gwirionedd, sy'n cludo negesau o gell i gell.
 
Mae pob [[anifail]], yn wir, mae pob [[organeb byw]] sydd â mwy nag un gell yn cynhyrchu ac yn defnyddio hormonau, sy'n rhan o'r [[System endocrinaidd]]. Mewn anifail, mae'r negeswyr hyn yn cael eu cludo o gwmpas y corff drwy [[cylchrediad y gwaed|gylchrediad y gwaed]]. Gall y gell ymateb i un math arbennig o hormon pan fo gan y gell hwnnw 'dderbynnydd' pwrpasol. Mae'r hormon yn clymu ei hun i [[protin|brotin]] y derbynnydd sy'n sbarduno rhyw weithgaredd neu'i gilydd yn y gell.
 
Mae moleciwlau o'r hormon [[endocrin]] yn cael eu chwysu (neu eu 'secretu') i'r gwaed; mae [[ecsocrin]] (neu 'ectohormones') yn cael ei ollwng yn uniongyrchol i'r ddwythell ('duct') ac oddi yno i'r gwaed; weithiau mae nhw'n llifo o gell i gell drwy drylediad ('diffusion') mewn proses a elwir yn 'negesu paracrin'.