The Edge of Love: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 4:
== Plot ==
Seiliwyd y stori yn fras ar ddigwyddiadau a phobl go iawn. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ail-gyfarfu Vera Phillips (Keira Knightley) â'i chariad cyntaf sef y bardd carismatig Cymreig Dylan Thomas (Matthew Rhys). Caiff eu teimladau at ei gilydd eu ail-gynnau er waetha'r ffaith fod Thomas bellach yn briod i Caitlin MacNamara (Sienna Miller). Er bod rhyw faint o wrthdaro rhwng y ddwy wraig daw'r ddwy ohonynt yn ffrindiau a threulia'r triawd amseroedd da gyda'i gilydd. Pan brioda Vera filwr o'r enw William Killick (Cillian Murphy), daw Thomas yn genfigennus a syla Caitlin ar hyn. Serch hynny, yn fuan iawn caiff William ei ddanfon dramor ac mae'r triawd yn symud i gefn gwlad Cymru lle mae teimladau Vera tuag at Dylan yn dwyshau.
|