Llid y coluddyn crog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
delwedd lleoliad
Llinell 2:
Nid ydy [[gwyddoniaeth]] hyd yma wedi darganfod beth yw pwrpas y darn bychan hwn o gnawd, rhwng y [[coluddyn mawr]] a'r [[coluddyn bach]], o'r enw cwlwm y coledd (neu 'apendics' ar lafar gwlad). Mewn rhai pobl, mae'n chwyddo neu'n ''llidio', a'r unig ateb ydy ei dynnu drwy [[llawdriniaeth|lawdriniaeth]] mewn [[ysbyty]]; naill ai [[laparotomi]] neu [[laparoscopi]]. Heb driniaeth, mae'r claf yn marw o [[llid y ffedog]] ('peritonitis') a sioc.
 
[[Delwedd:Cwlwmycol.jpg|bawd|chwith|260px]]
 
 
===Troi'n llidiog===
Yn dilyn llawer o arbrofion, mae'n ymddangos mai rhyw rwystr yn 'liwmen' yr apendics sy'n ei achosi i droi'n llidiog ac i ffyrnigo. <ref>Awdur: Wangensteen OH, Bowers WF; 'Significance of the obstructive factor in the genesis of acute appendicitis' yn ei gyfrool Arch Surg; cyfrol 34; tud: 496-, 1937}}</ref> Gynted mae'r rhwystr yma'n digwydd, mae'r cwlwm yn llenwi gyda [[miwcws]] ac yn chwyddo (h.y. yn troi'n llidiog). Mae'r pwysedd y tu mewn i'r liwmen yn cynyddu gan greu [[thrombosis]] ac [[achludiad]] ('occlusion') yn y pibelli bychan. Ar adegau prin iawn, fe all y claf wella ei hun. Os nad, yna mae'r [[bacteria]] yn dechrau gollwng drwy'r waliau tenau (sydd eisioes yn dechrau marw) gan achosi llid y ffedog. Os yw hwnnw, wedyn, yn dwyshau ac yn gwaethygu, mae'n troi'n [[gwenwyn yn y gwaed|wenwyn yn y gwaed]] (septisimia) a marwolaeth.