Magdalena Abakanowicz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{infobox person/Wikidata|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no}} Roedd '''Magdalena Abakanowicz''', (20 Mehefin 1930 - 20 Ebrill 2017) yn arl...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{infobox person/Wikidata|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no}}
 
Roedd '''Magdalena Abakanowicz''', ([[20 Mehefin]] [[1930]] - [[20 Ebrill]] [[2017]]) yn arlunydd o [[Gwlad Pwyl|wlad Pwyl]].

==Cefndir==
Ganed yn [[Falenty]], ger [[Warsaw]]. Roedd ei theulu yn fonheddig ond torrwyd ei magwraeth freintiedig yn fyr gan ymosodiad y [[Natsïaeth|Natsïaid]] ar Wlad Pwyl a'i "rhyddhad" gan yr [[Yr Undeb Sofietaidd|Undeb Sofietaidd]]<ref name="Kitowska">Kitowska-Lysiak, Malgorzata, ''[http://www.culture.pl/en/culture/artykuly/os_abakanowicz_magdalena Magdalena Abakanowicz]'', Visual Arts Profile, Polish Culture, Art History Institute of the Catholic University of Lublin, 2004</ref>.
 
Derbyniodd ei addysg yn Academi'r Gelfyddyd Gain, Warsaw (1950-55) yn ystod y cyfnod gormesol o ''Realistiaeth Sosialaidd''. Roedd Realistiaeth Sosialaidd yn set o reolau celfyddydol a grëwyd gan [[Joseff Stalin]] yn y 1930au, lle bu raid i gelfyddyd bod yn, fod yn '<nowiki/>''genedlaethol ei ffurf''<nowiki/>' a '''sosialaidd ei chynnwys''<nowiki/>'. Roedd dulliau celf eraill a oedd yn cael eu hymarfer yn y Gorllewin ar y pryd, megis [[Moderniaeth]], wedi'u gwahardd. Er mwyn ceisio osgoi sensoriaeth realaeth sosialaidd rhoddodd y gorau i arddulliau darluniadol mwy confensiynol gan droi at wehyddu.