Liwcemia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
* [[liwcemia gwyllt]] ('acute leukemia'): yr hyn sy'n nodweddiol o'r math hwn yw'r cynnydd aruthrol o un math o gelloedd gwaed gwyn (e.e. lymffoblasts) sydd yn eu tro yn cymryd lle'r mathau (iach) eraill megis y celloedd coch neu'r platennau. Gall ddigwydd mewn babis, plant ac oedolion ifanc. Mae angen triniaeth cynnar a sydyn i drin liwcemia gwyllt gan fod y celloedd gwyllt yn gor-dyfu mor sydyn gan ymuno â llif y gwaed a lledaenu drwy organau'r corff. Fe allent, hyd yn oed, deithio i fyny'r [[asgwrn cefn]] ac i'r [[ymennydd]].
 
* [[liwcemia cronig]]: mae'r math hwn yn gweithio'n ddistaw dros gyfnod o fisoedd neu flynyddoedd i ddatblygu. Unwaith eto, mae'r celloedd gwyn abnormal yn cael eu gor-gynhyrchu. Mewn pobol hŷn, fel arfer, y digwydd y ffurf cronig o'r afiechyd. Does dim cymaint o frys i drin y mahmath hwn (yn wahanol i liwcemia gwyllt) er mwyn monitro'r claf a theilwrio'r driniaeth ar gyfer y claf.
 
Yr ail ddull o ddosbarthu liwcemia ydyw drwy edrych ar y celloedd eu hunain: sut fath o gelloedd ydy'r rhai drwg? Ceir dau fath o gelloedd gwyn drwg: liwcemia lymffoblastig (lymffoblastig neu lymffocytic) a liwcemia myeloid neu myelogenous.