Santes Cynheiddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 2:
=== Cymysgu enwau ===
Bu gan dair o ferched Brychan, Ceinwen, Ceindrych a Cynheiddon <ref name=":0" /> (neu Cenhedlon) enwau sy'n talfyrru i Cain neu Geinor ac (ambell waith) Ciwa. Cymysgir nhw hefyd gyda Canna ach Tewdwr ap Emyr Llydaw. Mae'r wybodaeth amdanynt wedi cymysgu cymaint fel nad oes modd eu gwahanu'n llwyr. Aeth Ceinwen a Canna i Fôn a cysylltir Cain gyda de-dwyrain Cymru yn bennaf <ref name=":1">Spencer.R. 1991, ''Saints of Wales and the West Country'', Llanerch</ref>.
=== De-orllewin Cymru ===
Roedd Cynheiddon (neu Geinor, neu Canna), fodd bynnag, yn weithgar yn ne-orllewin Cymru; yn ardal [[Cydweli]], ble mae pentref a elwir Capel Llangynheiddon. Cydweithiodd yn agos gyda [[Cymorth (santes)|Cymorth]], a oedd yn ferch neu'n nith iddi.<ref name=":0" /><ref name=":1" />
=== Sedd Canna ===
Yn ymyl Llangain mae carreg a elwir 'Sedd Canna' gyda ffynnon gerllaw. Dywedir fod gwyrthiau wedi digwydd yno a bod y dŵr yn gwella pobl a oedd yn dioddef o'r cryd neu waeledd y coluddyn. Arferai'r claf daflu pinnau bach i'r ffynnon, yfed y dŵr, neu ymdrochu ynddo ac eistedd yn y gadair am gyfnod gan gysgu os gellid. Parhaodd y driniaeth am ddyddiau, am bythefnos weithiau. Diflannodd y ffynnon yn y [[19g]] ac mae'r ysgrifen ar y gadair yn amheus ond dywedir fod pant yn y garreg wedi'i greu gan y nifer o gleifion a oedd wedi eistedd arni.<ref name=":1" />
=== Cysegriadau ===
Llinell 24 ⟶ 25:
[[Categori:Cymry'r 6ed ganrif]]
[[Categori:Cymry'r 7fed ganrif]]
[[Categori:Merched y 6ed ganrif]]
[[Categori:Merched y 7fed ganrif]]
|