HIV: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
yn dileu'r ddolen unwaith eto
Llinell 6:
 
===Symptomau HIV===
* http://www.plwha.org
 
Nid yw'r rhan helaeth o bobl sydd a HIV yn wybodol eu bod wedi cael eu heintu oherwydd nad ydynt yn teimlo'n sâl yn syth ar ôl cael eu heintio a'r firws. Ar ôl dweud hyn, mae rhai pobl yn ystod sero-addasiad (''sero-conversion'') yn datblygu beth a elwir yn Syndrôm Gwrthfirws Dwys (''Acute Retroviral Syndrome''), sef symptomau tebyg i'r hyn a geir yn ystod [[chwarenglwyf]] (''glandular fever''), gyda gwres, brech ar y croen, poen cymalau a gordyfiant o'r chwarennau lymff. Cyfeirir sero-addasiad i ddatblygiad [[gwrthgorffynnau]] (''antibodies'') i HIV sydd fel arfer yn digwydd rhwng 1 a 6 wythnos ar ôl i heintiad â HIV ddigwydd. Hyd yn oed os nad yw HIV yn achosi symptomau cynnar, mae person â HIV yn heintiadwy iawn yn ystod y cyfnod cynnar hwn a gall drosglwyddo'r firws i berson arall. Yr unig ffordd i benderfynnu os yw HIV yn bresennol, yw i brofi am gwrthgorffynnau HIV neu am HIV ei hun. Ar ôl i HIV achosi dirywiad cynyddol o'r system imiwnedd, gall cynnydd mewn rhagdueddiad i heintiau ddilyn i symptomau. Mae'r [[WHO|Gyfundrefn Iechyd y Byd]] (''WHO''), yn gosod HIV mewn gwahanol gamau yn seiliedig ar gyfuno rhai symptomau, heintiau a chanserau.