Uned 5: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Mae'r rhaglen yn cael ei ffilmio yn Stiwdio Barcud Derwen ar Stad Cibyn, [[Caernarfon]]. Roedd y stiwdio yn arfer bod ar ffurf "tŷ". Ond, wrth i'r gyfres ddechrau apelio at gynulleidfa ychydig yn hŷn, mae'r fformat tŷ wedi dod i ben. Yn y blynyddoedd cyntaf, roedd trefn y gyfres yn debyg iawn i'r rhaglen Saesneg [[Blue Peter]], ond yn fwy diweddar mae'r gyfres wedi dechrau anelu fwy at gynulleidfa o bobl ifanc yn eu harddegau. ''Dime Goch'', sy'n rhan o gwmni teledu ''Antena'' sy'n cynhyrchu'r rhaglen.
 
Mae'r rhaglen yn cynnwys golwg ar y cyfryngau a'r ffilmiau diweddaraf, edrych ymlaen at bêl-droed y penwythnos, sgwrs gyda gwestai arbennig, slot ffasiwn, bandiau'n chwarae'n fyw ac nifer o eitemau eraill.
 
Mae'r brif rhaglen yn cael ei darlledu rhwng 6pm a 7pm ar nos Wener, gyda hanner awr ychwanegol ar [www.uned5.co.uk y wefan] tan 7.30pm.