Bannod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Geiryn a ddefnyddir mewn rhai ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, i wneud enw'n benodol yw'r '''Fannod'''. Mewn rhai ieithoedd ceir bannod amhenodol o flaen enwau he... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 20:15, 11 Tachwedd 2008
Geiryn a ddefnyddir mewn rhai ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, i wneud enw'n benodol yw'r Fannod. Mewn rhai ieithoedd ceir bannod amhenodol o flaen enwau hefyd, ond dim yn y Gymraeg ac am hynny defnyddir y term 'bannod' yn Gymraeg i gyfateb i'r term definite article ("bannod benodol") yn Saesneg. Mae rhai ieithoedd eraill, Siapaneg er engrhaifft, yn hebgor y fannod yn gyfangwbl.
Y Fannod yn Gymraeg
Ceir tair ffurf i'r Fannod yn Gymraeg:
- Yr, a ddefnyddir o flaen llafariaid ac h. Enghreifftiau: 'yr oren', 'yr haf'.
- Y, a ddefnyddir o flaen cytseiniaid. Enghreifftiau: 'y bachgen', 'y mwnci'.
- ‘r, a ddefnyddir ar ôl llafariad. Enghreifftiau: 'mae'r dref', 'i'r siop', 'a'r afal'.