|
|
[[Delwedd:Wfm wallace monument.jpg|250px|thumbnail|chwith|Cofgolofn William Wallace yn Stirling]]
Yn 1298 gorchfygwyd Wallace gan y Saeson ym [[Brwydr Falkirk (1298)|Mrwydr Falkirk]]. Llwyddodd Wallace ei hun i ddianc, ond penderfynodd ymddiswyddo fel Gwarcheidwad yr Alban. Ymddengys iddo fynd i [[Ffrainc]] tua diwedd 1298 i geisio cefnogaeth gan frenin Ffrainc. Dychwelodd i'r Alban yn 1303. Yr oeddRoedd yr Alban yn llwyr ym meddiant Edward I, a bu'r Saeson yn ymdrechu'n ddyfal i ddal Wallace. Ar [[5 Awst]] [[1305]] daliwyd ef trwy frad, a throsglwyddodd John de Menteith ef i ddwylo Edward. Aed ag ef i [[Llundain|Lundain]] a'i roi ar brawf am [[Teyrnfradwriaeth|deyrnfradwriaeth]]. Ateb Wallace oedd na allai fod yn fradwr i Edward, gan na fu Edward erioed yn frenin arno. Cafwyd ef yn euog, ac ar [[22 Awst]] [[1305]], dienyddiwyd ef yn [[Smithfield]]. Chwarterwyd ei gorff a gyrru'r rhannau i'w harddangos yn [[Newcastle upon Tyne|Newcastle]], [[Berwick-upon-Tweed|Berwick]], [[Stirling]], ac [[Aberdeen]], tra gosodwyd ei ben ar bicell ar [[Pont Llundain|Bont Llundain]].
{{Rheoli awdurdod}}
|