Y Dilyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 2:
[[Llifogydd]] anferth a anfonir gan [[Duw|Dduw]] i foddi'r ddynoliaeth yn gosb am eu pechod yw '''Y Dilyw'''. Ceir ei hanes yn ''[[Llyfr Genesis]]'' yn yr [[Hen Destament]], y [[Torah]] Iddewig a'r [[Coran]]. Mae'n perthyn i draddodiadau tebyg a geir mewn sawl diwylliant. Yn chwedl Feiblaidd Y Dilyw (Gen. 6-9), mae Duw yn gorchymyn i [[Noa]] adeiladu'r [[Arch Noa|Arch]] i achub ef a'i dri mab, sef [[Sem]], [[Ham (Beibl)|Ham]] a [[Jaffeth]] (tad [[Gomer fab Jaffeth|Gomer]]) a'u gwragedd, a deuryw anifeiliaid y byd gyda nhw, rhag y Dilyw. Credir fod y chwedl o darddiad [[Babilon]]aidd ; ceir chwedl am yr arwr [[Utnapishtim]] a'r Dilyw a anfonir gan y duwiau i foddi [[Mesopotamia]] yn rhan o'r cylch o gerddi am [[Gilgamesh]].
 
Yn y chwedl, mae Duw yn penderfynu arllwys y dyfroedd uwchben y ffurfafen ar y Ddaear i'w boddi. Ar orchymyn Duw mae Noa yn adeiladu'r Arch. Disgrifir [[Arch Noa]] (Gen 6:14-16) fel ystordy enfawr a fedrai nofio, er na ddywedir yn benodol bod y gwaelod ar ffurf llong. Yr oeddRoedd yn 300 [[cufydd]] (525 troedfedd) o hyd, 50 cufydd (87.5 troedfedd) o led, a 30 cufydd (52.5 troedfedd) o uchter. Ei defnydd oedd "pren goffer" (sydd a'i ystyr yn ansicr), wedi ei orchuddio oddi fewn ac oddi allan â [[pyg|phyg]], yn ôl yr afer gyda llongau [[afon Ewffrates]]. Rhennid hi yn ystafelloedd (yn llythrennol, "nythod"), ac yr oedd iddi dri llawr, gyda ffenestri o dan y to ar bob ochr, a drws yn ei hystlys.
 
[[Image:Aegidius of Roya deluge.jpg|200px|bawd|Noa yn gollwng y Golomen]]