Y ffliw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 1:
 
{{defnyddiaueraill|ffliw (gwahaniaethu)}}
{{Cyffuriau | fetchwikidata = ALL }}
[[Delwedd:Colorized transmission electron micrograph of Avian influenza A H5N1 viruses.jpg|de|250px|bawd|Y firws ffliw]]
 
[[Afiechyd]] sydd yn debyg i [[annwyd]] ond yn llawer mwy trwm a pheryglus yw'r '''ffliw'''.
 
Mae'r ffliw yn [[Clefyd|glefyd]] yr [[ysgyfaint]] a achosir drwy heintio gan [[firws]] y ffliw. Mae'r firws yn ymledu yn y pibellau anadlu a chyrraedd yr ysgyfaint ar hyd y llwybrau anadlu, yr [[oesoffagws]], [[broncws]], bronciolynnau. Ceir tri math o firws ffliw: A, B ac C. Mae rhywogaethau rheolaidd o 'ffliw' yn ymgodi naill ai o'r firws ffliw A neu B. Mae ffliw B ddim ond yn effeithio ar fodau dynol. Fodd bynnag, gall ffliw A effeithio ar [[adar]] a [[mamolion]], yn cynnwys bodau dynol, a hwn yw'r math sydd â'r potensial i achosi pandemigau byd-eang gyda bygythiad difrifol o golled bywyd.
Llinell 14 ⟶ 13:
 
Gydag amser, gall mwtaniadau yn yr RNA firaol achosi newidiadau yn y proteinau hyn - mân newidiadau (a elwir yn ddrifft antigenig) neu brif newidiadau (a elwir yn syfliad antigenig). Os oes digon o newid yn digwydd, gall y gwrthgyrff, y mae'r corff yn eu cynhyrchu drwy gofio heintiau blaenorol, fynd yn aneffeithiol yn ymladd y firws..<ref name=":0">{{Cite web|url=http://adnoddau.cbac.co.uk/Pages/ResourceByArgs?subId=16|title=Iechyd a GofalCymdeithasol|date=2011|accessdate=2017|website=CBAC|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
 
== Tarddiad ==
Llinell 32 ⟶ 30:
Gwneir diagnosis yn gyffredinol ar sail y symptomau, a ategir gan adnabyddiaeth o ba rywogaethau sy'n cylchdroi ar y pryd yn y boblogaeth.
Ble mae angen adnabyddiaeth fwy penodol, e.e. yn ystod ymddangosiad rhywogaethau newydd, gellir cynnal profion ar antigenau arwyneb neu ddilyniant [[DNA]] a geir mewn samplau oddi wrth unigolion heintiedig.<ref name=":0" />
== Triniaeth ==[[FileDelwedd:Defense.gov News Photo 041028-N-9864S-021.jpg|thumbbawd|Brechu yn erbyn ffliw]]
Nid oes angen i unigolion iach gyda ffliw gysylltu â'u meddyg teulu. Mae'n well ymladd y firws. Bydd ystafell gynnes, moddion i leddfu'r cur pen a'r poen yn y cyhyrau, moddion peswch i leddfu pesychu, yn helpu gyda'r frwydr hon.
 
Gellir defnyddio [[Gwrthfiotig|gwrthfiotigaugwrthfiotig]]au i drin haint eilaidd, ond nid ydynt yn cael effaith ar y ffliw.
Erbyn heddiw ceir moddion gwrthfiraol ar gyfer heintiau ffliw eithafol. Mae Tamiflu yn un o'r cyffuriau hyn, sef moddion gwrthfiraol a ddefnyddir yn ystod y 48 awr cyntaf ar ôl i'r symptomau ymddangos. Mae Tamiflu'n uno â'r niwraminidas ar arwyneb y gronynnau firws ac o'r herwydd mae'n rhwystro gallu cemegol y gronynnau firaol newydd rhag dianc o'r gell heintiedig. O'r herwydd caiff firws y ffliw ei gyfyngu i nifer lai o gelloedd ac mae gan system imiwnedd y corff gwell posibilrwydd o ladd y firws.
 
Dim ond rhwystro’r firws gall [[Tamiflu]] ei wneud. Ar adeg benodol bydd y nifer o gelloedd heintiedig yn mynd yn rhy fawr i'r Tamiflu weithio'n effeithiol, felly dylid ei gymryd cyn gynted â phosibl
Delir y drwydded ar gyfer cynhyrchu'r cyffur hwn gan Hoffman La Roche Pharmaceuticals. Fodd bynnag, pe bai pandemig yn digwydd gall Mudiad Iechyd y Byd (WHO) godi'r cyfyngiad hwn er mwyn galluogi cwmnïau eraill i gynhyrchu Tamiflu. Dim ond cyflenwad cyfyngedig o Tamiflu sy’n bodoli o ganlyniad i synthesis cymhleth y cyffur hwn a diffyg argaeledd y deunyddiau cychwynnol.
 
Caiff plant eu brechu'n rheolaidd yn erbyn Ffliw B gan fod yr imiwnedd a geir yn para'n ddigon hir i hyn fod yn ymarfer gwerth chweil.
Llinell 45 ⟶ 43:
Cynigir brechiadau ffliw blynyddol i rai pobl, yn enwedig y rhai sydd â risg uchel o gael cymhlethdodau sy'n bygwth bywyd o'r ffliw, fel yr henoed neu'r rhai sydd â chyflyrau a allai leihau eu hymwrthedd, e.e. [[Ffibrosis systig|ffibrosis y bledren]]. Mae'n bwysig sylweddoli bod pobl wedi'u brechu ddim ond yn dod yn imiwn rhag rhywogaeth gyfredol y ffliw: nid yw hyn yn golygu eu bod yn imiwn rhag pob firws ffliw.
 
Gall unigolion wedi'u brechu ddal i gael eu heintio gan firws y ffliw oherwydd bod y firws yn aml yn mwtanu i gynhyrchu rhywogaeth newydd sy'n ymwrthiol i'r brechlyn.<ref name=":0" />
 
== Rheolaeth ==
[[FileDelwedd:ChineseFluInspectors.JPG|thumbbawd|Archwilwyr Tsieineaidd ar awyren, yn wirio teithwyr ar gyfer twymyn, symptom cyffredin o ffliw moch]]
Mae rheoli ffliw ‘normal’ yn gyfyngedig i leddfu'r symptomau, ac annog unigolion heintiedig i aros gartref nes byddant yn peidio â bod yn heintus, ynghyd ag amddiffyniad ychwanegol fel yr amlinellir uchod ar gyfer grwpiau mewn perygl.
 
Llinell 61 ⟶ 59:
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
== Darllen pellach ==