Ynys Brydain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →top: clean up |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 5:
Cysyniad â'i wreiddiau yn hanes cynnar y Brythoniaid/Cymry oedd Ynys Brydain. Mae'n deillio o'r cyfnod [[Celtiaid|Celtaidd]] a'r cyfnod ôl-[[Rhufeiniaid|Rufeinig]] pan fu Prydain i'r de o linell yn rhedeg o [[Ystrad Clud]] i'r [[Moryd Forth|Foryd Forth]] ([[Glasgow]] - [[Caeredin]]) ym meddiant y [[Brythoniaid]], pobl Geltaidd a siaradai'r iaith [[Brythoneg|Frythoneg]]. Daeth y llwythau "[[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsonaidd]]" (cyndeidiau'r [[Saeson]]) drosodd o'r cyfandir ac yn raddol collodd y Brythoniaid eu tir. Meddiannwyd [[Lloegr]] - ac eithrio [[Cernyw]] - gan yr Eingl-Sacsoniaid. Daliodd Brythoniaid yr [[Hen Ogledd]] allan am ganrifoedd, ond torrwyd y cysylltiad rhwng [[Gwŷr y Gogledd]] a Brythoniaid Cymru. Daethant i alw eu hunain yn Gymry ond ni pheidiasent alw eu hunain yn Frythoniaid (neu'r Brython, fel enw torfol unigol) ac i ystyried fod ganddynt hawl ar Ynys Brydain, sef "Gwlad y Brython" (un o hen ystyron ''ynys'' yw 'gwlad', fel yn achos y gair [[Lladin]] ''insula'').
Ceir cyfeiriadau mor gynnar â [[Nennius]] at Ryfeddodau Ynys Brydain, dinasoedd yr ynys (32 ohonynt) ac ati. Cyfeirir yn aml at "Ynys Brydain a'i thair rhag ynys," sef [[Môn]], [[Ynys Manaw|Manaw]] ac [[Ynys Wyth|Wyth]] (sylwer nad oes sôn am ynysoedd [[yr Alban]]).
|