Ynys Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Cyfnod y Rhufeiniaid ac Oes y Saint: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 104:
===Cyfnod y Rhufeiniaid ac Oes y Saint===
[[Image:House at Din Llugwy.jpg|chwith|bawd|200px|Din Llugwy: gweddillion un o'r tai crwn]]
Ymosododd y [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|Rhufeiniaid]] ar Ynys Môn am ei fod yn fangre lle yr oedd eu gelynion yn gallu cael lloches. Yr oeddRoedd y Derwyddon yn arwydd o wrthwynebiad gwleidyddol iddynt, ac roedd yno ysguboriau grawn i borthi eu gelynion. Yn ogystal yr oedd posibilrwydd cael [[copr]] yno. Mae'r [[hanes]]ydd Rhufeinig [[Tacitus]] yn disgrifio brwydr waedlyd ar yr ynys yn [[60]] neu [[61]] O.C. pan groesodd byddin dan [[Gaius Suetonius Paulinus]] dros [[Afon Menai]] mewn cychod a chipio'r ynys.
 
{{dyfyniad|Ar y lan gyferbyn yr oedd byddin y gelyn, tyrfaoedd o wŷr arfog, a merched yn rhuthro'n ôl a blaen drwy'r rhengoedd, wedi eu gwisgo mewn du fel ellyllon, eu gwallt yn chwifio yn yr awyr, a ffaglau'n fflamio yn eu dwylo. O'u hamgylch yr oedd y [[Derwyddon]] yn sefyll, eu dwylo wedi eu codi tua'r nefoedd, yn tywallt eu gweddïau erchyll.|||Tacitus|cyf. J. Owen Jones<ref>''Ynys Môn (Bro'r Eisteddfod 3) t. 31</ref>}}