Afon Einion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Afon yng ngogledd Ceredigion sy'n llifo i lawr o'r bryniau i'r de o dref Machynlleth ac i'r gogledd o Bumlumon i aberu yn Afon Dyfi yw '''Afon Einion'''....
 
llun
Llinell 1:
[[Afon]] yng ngogledd [[Ceredigion]] sy'n llifo i lawr o'r bryniau i'r de o dref [[Machynlleth]] ac i'r gogledd o [[Pumlumon|Bumlumon]] i aberu yn [[Afon Dyfi]] yw '''Afon Einion'''. Ei hyd yw tua 4 milltir.
 
[[Delwedd:Dyfi Furnace 3.JPG|250px|bawd|Ffwrnais Dyfi gydag Afon Einion yn y cefndir]]
 
Mae'r afon yn tarddu tua 480m i fyny yn y bryniau tua phum milltir i'r de o Fachynlleth, rhwng Moel-y-llyn (521m) a'r Mynydd Du (447m). Mae'n llifp i gyfeiriad y gorllewin gan gasglu nifer o ffrydiau llai i lawr trwy Gwm Einion. Ger pentref bychan [[Ffwrnais Dyfi]] ceir olwyn fawr ar ei lan a ddefnyddid ar gyfer y [[ffwrnais]] yno. Llifa'r afon dan bont ar yr [[A487]], rhwng Ffwrnais Dyfi ac [[Ysgubor-y-coed]] a thua milltir a hanner ar ôl hynny mae'n llifo i Afon Dyfi.