Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dinas Emrys"

Ychwanegwyd 120 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
lluniau
(lluniau)
[[Delwedd:DinasEmrys1Castell Dinas Emrys.JPG|300pxjpg|bawd|'''de|250px|Dinas Emrys''' o [[Afon Glaslyn]]]]
[[Delwedd:Dinas Emrys 2.jpg|de|bawd|250px|Y mur allanol]]
Y mae '''Dinas Emrys''' yn safle hen [[Castell|gastell]] a [[bryngaer]] yn ne [[Eryri]], [[Gwynedd]]. Mae'n un o'r cynharaf o'r [[Cestyll y Tywysogion Cymreig|cestyll Cymreig]]. Saif i'r gorllewin o'r [[A498]] rhwng [[Capel Curig]] a [[Beddgelert]], tua milltir i'r gogledd-orllewin o'r pentref olaf.
 
 
==Y dreigiau==
[[Delwedd:DinasEmrys1.JPG|250px|bawd|Safle Dinas Emrys o [[Afon Glaslyn]]]]
Mae gwaith yr [[Archaeoleg|archaeolegwyr]] yn dangos fod amddiffynfa ar Ddinas Emrys yn y cyfnod [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeinig]] a'r [[Oesoedd Canol]] cynnar. Yr amddiffynfa honno yw lleoliad yr ymladd dan seiliau'r castell rhwng y ddwy [[Draig|ddraig]], [[Y Ddraig Goch|un yn goch]] a'r llall yn wyn, yn chwedl [[Cyfranc Lludd a Llefelys|Lludd a Llefelys]]. Mae [[Sieffre o Fynwy]] yn adrodd sut y bu i [[Myrddin|Fyrddin]] eu dangos i'r brenin [[Gwrtheyrn]] gan esbonio eu bod yn cynrychioli y [[Brythoniaid]] a'r [[Saeson]] yn eu gornest am [[sofraniaeth]] [[Ynys Prydain]]. Am unwaith mae Sieffre, sy'n ffugiwr heb ei ail, yn dilyn traddodiad Cymreig dilys a geir am y tro cyntaf yng ngwaith [[Nennius]], yr ''[[Historia Brittonum]]'' (9fed ganrif). Mae Nennius a Sieffre yn dweud bod y dreigiau'n cwffio dan bwll tanddaearol ac felly'n peri i'r castell roedd y brenin yn ceisio codi gwympo bob tro. Heddiw mae'r pwll yno o hyd.