Bhasha Andolon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: simple:Bengali Language Movement
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Pan greuwyd [[gwladwriaeth]] Pacistan yn 1947, roedd ei ddau ranbarth, Dwyrain Pacistan (neu Ddwyrain [[Bengal]]; Bangladesh) a Gorllewin Pacistan, wedi ei rannu o ran [[diwylliant]], [[daearyddiaeth]] ac [[iaith]] gyda gwlad anferth [[India]] yn gorwedd rhyngddynt. Yn 1948, cyhoeddodd [[Llywodraeth Pacistan]] mai [[Wrdw]] (Urdu) yn unig fyddai'r iaith genedlaethol, ac arweiniodd hyn at brostestiadau niferus gan siaradwyr [[Bengaleg]] Dwyrain Pacistan. Yn wyneb hynny a'r tensiynau enwadol ac anfodlonrwydd cyffredinol am y ddeddf newydd, gwaharddodd y llywodraeth gyfarfodydd cyhoeddus a ralïau. Ond penderfynodd myfyrwyr [[Prifysgol Dhaka]] ac ymgyrchwyr gwleidyddol eraill herio'r gyfraith a threfnu protest iaith ar [[21 Chwefror]] [[1952]]. Torwyd y brotest i fyny gan yr heddlu a lladdwyd rhai o'r myfyrwyr. Arweiniodd y marwolaethau hynny at sefyllfa o ansefydlogrwydd sifil ar raddfa eang a arweinwyd gan y [[Cynghair Awami|Cynghrair Mwslim Awami]] ([[Cynghrair Awami]] yn ddiweddarach). Ar ôl rhai blynyddoedd o wrthdaro, ildiodd y llywodraeth ganolog a rhoddwyd statws swyddogol i'r Fengaleg yn 1956. Yn 1999, cyhoeddodd [[UNESCO]] 21 Chwefror yn [[Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol|Ddiwrnod Mamiaith Rhyngwladol]], mewn teyrnged i Fudiad yr Iaith Fengaleg ac i hawliau grwpiau ethnig-ieithyddol ledled y byd.
 
Cafodd y Mudiad Iaith yr effaith o gataleiddio cadarnhad hunaniaeth [[Bengaliaid|Fengalaidd]] ym Mhacistan, gan arwain yn y pendraw at ffurfio mudiadau [[cenedlaetholdeb|cenedlaetholgar]], yn cynnwys [[Mudiad y 6 Pwynt]], a [[Rhyfel Annibyniaeth Bangladesh]] yn [[1971]].

Heddiw ym Mangladesh cedwir gŵyl [[21 Chwefror]] fel ''Diwrnod y Mudiad Iaith'', sy'n un o wyliau cyhoeddus y wlad. Codwyd cofeb Shaheed Minar ger Coleg Meddygol [[Dhaka]] i goffau'r rhai fu syrthio. Ond y brif gofeb ymarferol i'r mudiad efallai yw'r [[Academi Bangla]], a sefydlwyd yn 1955 er mwyn hyrwyddo'r iaith Fengaleg.
 
==Darllen pellach==