Darius II, brenin Persia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: et:Dareios II
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Brenin [[Ymerodraeth Persia]] oedd '''Darius II''', [[Hen Berseg]]: ''Dārayavahuš'', enw gwreiddiol '''Ochus''' (bu farw [[404 CC]]).
 
Roedd Ochus yn fab gordderch i [[Artaxerxes I, brenin Persia|Artaxerxes I]]. Ar farwolaeth Artaxerxes yn [[424 CC]], olynwyd ef gan ei unig fanfab gan ei frenhines, [[Xerxes II]]. Yn fuan wedyn, llofruddiwyd Xerxes II ar orchymyn ei hanner brawd, [[Sogdianus, brenin Persia|Sogdianus]], a'i dilynodd ar yr orsedd. Chwe mis yn ddiweddarach, lladdwyd Sogdianus ar orchymyn Ochus, a daeth Ochus yn frenin dan yr enw Darius II yn [[423 CC]].
 
Er iddo deyrnasu am bron ugain mlynedd, ni wyddir llawer am ddigwyddiadau ei gyfnod. Crybwylla [[Xenophon]] wrthryfel gan y [[Mediaid]] yn [[409 CC]]. Wedi i rym [[Athen]] wanychu yn ystod ei rhyfel yn erbyn [[Sparta]], gwnaeth Darius gynghrair gyda Sparta yn ei herbyn, ac yn [[408 CC]], gyrroedd ei fab, [[Cyrus yr Ieuengaf|Cyrus]] i [[Asia Leiaf]] i ymgyrchu. Olynwyd ef gan [[Artaxerxes II, brenin Persia|Artaxerxes II]].