Michael D. Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: es:Michael D. Jones
Rhysllwyd (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
 
Aeth i fyw yn yr [[UDA]], i astudio gwerinlywodraeth a chaethwasaeth am rai blynyddoedd a sefydlu rhai cymunedau Cymreig yno. Daeth yn weinidog yn [[Cincinnati]], [[Ohio]] ym [[1848]], talaith ble roedd ei chwaer yn byw hefyd. Beth bynnag, ei waith mwyaf oedd sefydlu'r Wladfa yn Patagonia. Meddyliodd fod Patagonia yn lle perffaith i godi cymuned Gymreig am fod neb yn byw yno (heblaw am yr Indiaidd [[Tehuelche]]) ac roedd ef wedi gweld fod [[mewnfudo|mewnfudwyr]] Cymreig wedi colli eu hiaith a'i diwylliant mewn ychydyg iawn o amser ar ôl dod i'r UDA a byw mewn cymunedau lleol. Roedd e'n meddwl fod cael capel, ysgol a senedd ac adeiladu amgylchedd Gymreig yn bwysig iawn i'r mewnfudwyr. Dim ond unwaith y bu ar ymweliad a'r Wladfa, ond ariannodd yr Wladfa tra yn byw a gweithio yng Nghymru. Daeth ei fab, [[Llwyd ap Iwan]], yn ffigwr amlwg yn y Wladfa yn ddiweddarach.
 
 
=== Syniadaeth Michael D. Jones ===
 
 
== Rhagdybiaeth Crefyddol ==
 
 
I geisio gwerthfawrogi arbenigrwydd Michael D. Jones fel meddyliwr gwleidyddol maen angen gweld sut y mae gwahanol gymalau ei ddysgeidiaeth yn cysylltu â'i gilydd. Ni chyflwynodd fynegiant manwl a threfnus o'i olygiadau trwy gyfrwng llyfr ond eu cymhwyso at wahanol gwestiynau'r dydd fel yr oeddent yn codi ac yna mae'r Celt, cylchgrawn a fu dan olygyddiaeth Michael D. Jones, yn ffynhonnell anhepgor i'r neb sy'n dymuno ymgydnabod â'i athroniaeth. Teg yw dechrau lle buasai Michael D. Jones ei hunan yn disgwyl inni ddechrau, sef gyda'i argyhoeddiadau Cristnogol. Myn ei weld ei hunan ym mhopeth a ysgrifennodd fel lladmerydd y weledigaeth Gristnogol – safbwynt y gellid ei ddisgwyl gan brifathro coleg diwinyddol. Coleddai Michael D. Jones yr hyn a elwir heddiw yn “safbwynt Efengylaidd”. Yn ei agwedd at y Beibl yr oedd yn llythrenolwr a chredai fod geiriau'r Beibl, yn yr Hen Destament a'r Newydd i'w cymhwyso'n uniongyrchol at amgylchiadau cyfoes. Ac er cymaint a ysgrifennodd ar bynciau gwleidyddol ni choleddai'r hyn y daethpwyd i'w galw'n “Efengyl Gymdeithasol”. Nid oedd ganddo gydymdeimlad â'r safbwynt y gellid uniaethu Cristnogaeth yn ddiamod â gwelliannau moesol neu ddiwygiadau cymdeithasol. Y flaenoriaeth yw achubiaeth bersonol.
 
Wrth geisio dadansoddi hanfodion bywyd cymdeithasol, â'n syth at benodau cyntaf Genesis. Ond llawer amlycach yw ei gred fod ffurflywodraeth yr Eglwys yn rhyw fath o batrwm i strwythur cymdeithasol yn gyffredinol. Daliai Michael D. Jones athrawiaeth yr Annibynwyr am yr Eglwys ac y mae dwy wedd, arwyddocaol iddo ef ar honno. (a) sofraniaeth y gynulleidfa unigol tan Grist a'r gred ei bod yn rhydd iddi wrth ymyrraeth gan unrhyw gorff arall, a (b) fod yr awdurdod yn gorffwys yng nghorff aelodau'r eglwys, nid mewn unrhyw swyddogion y tu mewn neu'r tu allan iddi. O gymhwyso hyn at y genedl, daliai fod pob cenedl wedi ei bwriadu i fwynhau annibyniaeth a bod yr awdurdod yn gorffwys yng nghorff y dinasyddion. Yr oedd yn ddigon naturiol i Michael D. Jones roi pwys ar natur eglwys oherwydd yn y pwnc hwnnw yr oedd gwreiddyn chwerwder rhyngddo a Dr. John Thomas. Er hynny, nid cysylltiad damweiniol yn ei achos ef oedd hwnnw rhwng trefn eglwys a threfn cymdeithas. Meddai, “Mae cysylltiad glos rhwng ein syniadau ar drefn eglwysig a'n credo wleidyddol...”
 
 
== Y Ddeddf Foesol ==
 
 
Tant y mae'n ei daro'n gyson trwy'r blynyddoedd yw mai un ddeddf foesol sydd. Gwrthodai'r ddysgeidiaeth fod un rheol ar gyfer unigolion yn eu bywyd preifat, a rheol wahanol iddynt yn eu bywyd cyhoeddus. Yr un safonau moesol sy'n clymu unigolion a chenhedloedd. Wrth iddo ddatblygu'r thema hon yn ei ysgrifau y gwelir gliriaf ei ddibyniaeth ar oraclau proffwydi'r Hen Destament yn erbyn Israel. Un o ganlyniadau cymryd y safbwynt hwn oedd condemnio deddfau seneddol nad oeddent yn parchu'r deddf foesol – fel deddfau gorfodaeth Iwerddon. “Nid cyfraith”, meddai, “yw sylfaen moesoldeb, ond dylai moesau pawb fod wedi eu sylfaenu ar foesoldeb tragwyddol a digyfnewid, ac nid ar gyfreithiau y gellir eu newid yn ôl mympwyon dynion.”
 
Canlyniad arall yr argyhoeddiad hwn oedd ei ymosodiadau niferus ar y rhagrith oedd yn gwreiddiol yn y gred fod moesoldeb cyhoeddus yn wahanol i foesoldeb preifat. “Mae gan y Seison ddwy reol bywyd, un i bersonau unigol, ac un arall hollol wahanol i'r Llywodraeth.” ... Yr un ymateb sydd ganddo i'r cynnwrf poblogaidd ynglyn ag erchyllterau “Sion y Rhwygwr” (Jack the Ripper) ym 1888. Beth yw'r gwahaniaeth moesol rhwng erchyllterau Sion y Rhwygwr yn Llundain a thrais y llywodraeth yn Iwerddon? ... Na! - i Michael D. Jones yn y Beibl “un rheol o foesoldeb” sydd i genhedloedd ac unigolion ac y mae'r Deg Gorchymyn i'w cymhwyso at genhedloedd hefyd.
 
 
== Ymreolaeth o'r pwysigrwydd mwyaf ==
 
 
Mae Cymru'n genedl. Treuliodd Michael D. Jones ei oes i geisio dyfnhau; ymwybyddiaeth genedlaethol ymhlith y Cymry. Dyma'r hyn a ysgogai ei lafur mawr gyda'r Wladfa yn Ariannin. A dyma hefyd y gwahaniaeth mawr rhyngddo a radicaliaid o ysgol David Rees, Lanelli, S.R., a J.R. Daw'r pwynt yn amlwg yn oerfelgarwch Michael D. Jones at Henry Richard. Yn wir, cyn gynhared â 1884 yr oedd yn dal mai dysgeidiaeth Richard oedd y dylai'r Cymry “daflu ymaith bob gwahaniaeth”, ac “ymdoddi i John Bull” am “nad oes gan y Cymro yn awr ddim achos cwyno.”'
 
Ei gyfraniad personol arbennig i'r drafodaeth wleidyddol yng Nghymru oedd mynnu rhoi ymreolaeth yn gyntaf. Yn wir, yr oedd ysgrifenwyr Y Celt yn brolio'r papur am roi lle amlwg i ymreolaeth. Fel y dywedodd Michael D. Jones “Mae y Celt o'r dechrau wedi gosod lle amlwg i faner Ymreolaeth, ac yn neilltuol ymreolaeth i Gymru”. Y gwir yw, nad oes bron sôn o gwbl am y pwnc yng nghyfnod S.R. fel y golygydd oherwydd nid oedd y mater o ddiddordeb iddo ef. Ond pan ddaeth Pan Jones, awdur cofiant enwog Michael D. Jones, yn olygydd ym 1881, esboniwyd polisi'r Celt mewn datganiad sy'n “llawenychu fod y Sais balch teyrngarol o'r diwedd wedi cydnabod yn gyhoeddus y priodoldeb o ganiatáu deddfwriaeth neilltuol i Gymry” ac ychwanega, “Nid oes ond un sefyllfa a all fod yn well na hyn, sef cael llywodraeth Gartrefol i Gymru – eu Deddfwrfa eu hunain i'r Cymry, yn yr Undeb Prydeinig.” '
 
Pwyslais arbennig Michael D. Jones oedd fod yn rhaid rhoi ymreolaeth i Gymru ar frig y rhaglen wleidyddol. Wrth ddadlau tros yr argyhoeddiad hwn ym 1887, mae Michael D. Jones yn awgrymu pa ddylanwadau a'i creodd... “Athrawiaeth Kossuth, cenedlgarwr mawr Hwngari, oedd, hawl pob cenedl i reoli ei hunan.”
 
Fel yr oedd yr 1880au yn cerdded rhagddynt, âi Michael D. Jones yn fwy diamynedd gyda'r dadlau yng Nghymru ynglŷn â pha fesurau y dylid eu rhoi ar flaen y rhaglen wleidyddol. Iddo ef, yr oedd yn rhaid mynd at wreiddyn y mater. Ffolineb yn ei olwg oedd cynnal ymgyrchoedd yn galw am deddfau unigol ar y Tir, neu Ddirwest, neu'r Degwm, neu Addysg, heb herio cynsail gwaelodol y drefn wleidyddol. Sef fod gan Loegr hawl foesol i ddeddf tros Gymru. Yr oedd yn bur bigog ynglŷn â'r ffordd yr oedd Datgysylltiad yn cael ei wneud yn brif bwnc. Ymosododd yn chwyrn ar y Rhyddfrydwyr a gyfarfu yn y Rhyl yn nechrau 1887 a chynllunio i roi blaenoriaeth i'r pwnc hwnnw.'
 
 
== Iaith yn hanfodol i genedligrwydd ==
 
 
Yr oedd y frwydr am Ymreolaeth yn rhywbeth llawer mwy i Michael D. Jones na moddion i hwyluso llywodraeth neu i leddfu cwynion pobl un gornel o Brydain. Yr oedd a wnelo hi â bywyd, diwylliant, a grymuster moesol cymdeithas hanesyddol. Yr oedd a wnelo hi hefyd â gwareiddio a disgyblu grym oherwydd yr oedd gan Michael D. Jones ymwybod byw iawn â'r llanast a'r tristwch y mae'r byd wedi eu ddioddef trwy'r canrifoedd o ganlyniad i gamddefnyddio grym.
 
Y mae'n ofalus iawn i ymwrthod ag unrhyw awgrym mai endid hilyddol yw cenedl. Y mae gwreiddiol llawer Cymro yn Lloegr ac y mae'r elfen Geltaidd yn rhan nid dibwys o waddol Lloegr hithau. Ynghanol yr holl bethau llymion a ddywedodd am Saeson, y mae'n ofalus iawn i esbonio at bwy'n union y mae'n anelu – fel arfer, at y “pendefigion”, y dosbarth llywodraethol. Un o brif gynheiliaid cenedligrwydd yn ei olwg yw iaith. Ysgrifennodd lawer ar y pwnc, ac y mae'n ddiddorol gynifer o'i sylwadau sy'n cael eu datblygu gan Emrys ap Iwan.
 
Ac felly ni flinai bwyso ar ei ddilynwyr ddefnyddio'r Gymraeg ymhob man posibl – yn eu cartrefi, yn eu siopau, ar arwyddion cyhoeddus, yn yr ysgolion ac yn y Cynghorau Sir. A'i'n neilltuol flin wrth weld pobl yn bradychu'r iaith. Er edmygu'r gweithgarwch mawr oedd ynglŷn â'r Eisteddfod Genedlaethol, teimlai fod Eisteddfod Bangor “yn eithafol o Seisnig a bod Sais a bonedd-addoliad cyfoglyd yn yr hyrwyddwyr.” Yr oedd yn ddig iawn wrth Gymdeithas yr Iaith [nid yr un mudiad a sefydlwyd yn yr 1960au] am ddadlau y gellid dysgu Saesneg yn gynt trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr oedd am i'r Gymdeithas yn hytrach ymroi ati i sicrhau statws cyflawn i'r iaith ymhob cylch. Ac, wrth gwrs, yr oedd y bobl ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd a'r Annibynwyr, a oedd wrthi'n codi capeli Saesneg yn dod yn drwm o dan yr ordd. A chyhuddai Weinidogion o alltudio'r iaith oddi ar eu haelwydydd a'u gwragedd yn cychwyn dosbarthiadau Saesneg yn yr Ysgol Sul.
 
 
== Dadansoddiad o Imperialaeth ==
 
 
Agwedd arall ar genedlaetholdeb radical Michael D. Jones yw ei feirniadu llym ar imperialaeth a'r effaith a gafodd ar genhedloedd gorchfygedig. Wrth drafod y pynciau hyn y mae ar ei fwyaf llym a digymrodedd. Ac yr oedd gofyn cryn ddewrder i gyhoeddi golygiadau mor feirniadol pan oedd imperialaeth Lloegr yn cyrraedd ei phenllanw a'r Cymry hwythau'n penfeddwi ar ogoniannau'r ymerodraeth na fentrau'r haul fachludo arni.
 
Bu'n draddodiad ymhlith Protestaniaid i ddeall y cyfeiriadur Beiblaidd at “Babilon Fawr” fel proffwydoliaethau yn erbyn Eglwys Rufain. Gwrthyd Michael D. Jones yr esboniad hwn. “Wrth Babilon Fawr y deallaf fi, llywodraeth unbenaethol a phendefigol yn ei gwahanol agweddau, wedi ei seilio ar drais a gormes y drefn filwrol.” O gymryd y safbwynt hwn, gwêl y datganiadau ffyrnig yn y Beibl yn erbyn Babilon, fel geiriau i'w cymhwyso at y frwydr fodern yn erbyn imperialaeth.'
 
Mae Michael D. Jones yn pwysleisio fod yn rhaid i wlad rydd ddefnyddio “grym i osod troseddau i law”. Mae'n amhosib i gymdeithas ffynnu mewn anhrefn a dylai dinasyddion cyfrifol fod yn deyrngar i'w llywodraeth oherwydd y “gormeswyr gwaethaf o bawb yw dynion dilywodraeth”. Y drychineb yw fod awenau llywodraeth yn disgyn i ddwylo pobl ormesol. Yr oedd yn arwyddocaol fod y Diafol wedi ceisio temtio Iesu Grist trwy gynnig teyrnasoedd y ddaear iddo oherwydd y “Diafol bia bob llywodraeth ag sydd wedi ei seilio ar ormes a thywallt gwaed.” A gwrthododd Iesu ddefnyddio trais a rhyfel i sefydlu ei deyrnas. O ganlyniad, y mae polisi'r Ellmyn yr Affrica am y pegwn â dysgeidiaeth Iesu, yn ymestyn eu dylanwad trwy'r “fwled a'r Beibl” gan honni eu bod yn lledaenu Cristnogaeth. Ac nid yw gweithredoedd llywodraeth Lloegr yn Affrica fymryn gwell chwaith.
 
Y mae imperialaeth yn ei hanfod yn anfoesol ac nid yw'n rhyfedd ei bod yn esgor ar bob math o ddrygioni, oherwydd, “os yw ymreolaeth yn dda i Loegr, gellid meddwl fod yr un peth yn llesol i bob gwlad.” Mae Michael D. Jones yn glir yn ei feddwl beth yw'r egwyddor foesol sylfaenol yn y cyswllt hon: “Credaf finnau fod gwirionedd yn ddigyfnewid fel y Duwdod, ym mhob lle ac amser, ac mai cyfiawnder yw i bob cenedl gael llywodraethu ei hunan. Mae gwneud caethion darostyngedig o genhedloedd yn drosedd yn erbyn dynoliaeth, fel gwneud caethion o bersonau, a chredaf mai llywodraeth oresgynnol yw Babilon Fawr y Beibl, gyda'r hon y puteiniodd holl frenhinoedd y ddaear...” Felly, yn enw moesoldeb, dynoliaeth ac addysg y Beibl, nid oes gan y Cymry ddewis ond gwrthwynebu imperialaeth hyd eithaf eu gallu; dyna oedd cri Michael D. Jones.
 
 
== Ffynhonell ==
 
Addasiad o ''Michael D. Jones a'r Celt'' gan R. Tudur Jones
 
 
[[Categori:Pobl o Feirionnydd|Jones, Michael Daniel]]